Gwener (duwies)

Oddi ar Wicipedia
Gwener
Enghraifft o'r canlynolduwdod Rhufeinig, duwdod ffrwythlondeb, duwies Edit this on Wikidata
Enw brodorolVenus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwener (o'r Lladin Veneris, "yn perthyn i Venus") yw'r ffurf Gymraeg o'r enw "Venus", a oedd yn dduwies serch a phrydferthwch mytholeg Rufeinig. Rhoddodd ei henw i Gwener, yr ail blaned oddi wrth yr Haul, ac enwyd diwrnod o'r wythnos ar ei hôl, Veneris dies, a ddaeth i'r Gymraeg fel Dydd Gwener. Mae'r dduwies, fel llawer o dduwiau Rhufain, yn tarddu o fytholeg Roeg, lle roedd yn ymddangos dan yr enw Aphrodite.

Yn ôl fersiynau gwahanol o'r chwedl cafodd Gwener ei geni yn y môr ger naill ai Cyprus neu ynys Cythera. Caiff Gwener ei phortreadu'n aml gan y chwedlau fel cymeriad balch a byr ei thymer. Roedd yn anffyddlon yn gyson i'w gŵr Fwlcan (Hephaestos) a chafodd berthnas gyda Mawrth, duw rhyfela, Adonis ac Anchises (yn ddiweddarach, byddai'n cenhedlu'r arwr Aeneas gyda'r dyn meidrol hwn). Roedd Gwener hefyd yn fam i Ciwpid, duw serch. Yn yr Iliad, Gwener oedd yn rhannol gyfrifol am Ryfel Caerdroea hefyd am iddi gynnig Elen o Gaerdroea yn wraig i Baris.

Yn Rhufain, roedd teulu'r Julii yn haeru eu bod yn ddisgynyddion i'r dduwies Gwener, trwy Aeneas. Cyflwynodd yr enwocaf o'r teulu yma, Iŵl Cesar, gwlt Venus Genetrix, fersiwn mamol a theuluol o'r dduwies. Un o'r duwiesau tebyg iddi mewn chwdloniaeth Geltaidd oedd Modron.

Gwener mewn celf[golygu | golygu cod]

  • Venus de Milo [1] Archifwyd 2005-04-28 yn y Peiriant Wayback., cerflun hynafol a ddarganfuwyd ar ynys Melos (neu Milo) a oedd yn dangos Gwener yn dal yr afal aur a'i roddwyd iddi gan Paris. Mae'r cerflun eisoes wedi colli ei breichiau.
  • Genedigaeth Gwener gan Sandro Botticelli. Yn y ddelwedd enwog hon o'r Dadeni, dangosir Gwener yn glanio ar lannau Cyprus am y tro cyntaf, wedi'i chludo gan gregyn yn arnofio ar y dŵr a'r gwyntoedd.
Gwener yn ymolchi gan Titian (tua 1525), Oriel Genedlaethol yr Alban

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Mwnt Gwener: rhan o'r corff benywaidd a anwyd ar ei hôl.