Gwener (planed)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y blaned Gwener yn ei lliwiau cywir
Llun radar o'r blaned Gwener

Gwener yw'r ail blaned yng Nghysawd yr Haul, 67,200,000 milltir oddi wrth yr Haul ar gyfartaledd, wedi'i henwi ar ôl duwies Rufeinig cariad. Yr enw poblogaidd arni yw Seren y dydd. Ar lafar, ei henw yw Seren y Gweithiwr.

Nid oes planed sy'n cyrraedd mor agos i'r Ddaear â Gwener pan bo hi ar ei hagosaf atom: 24 miliwn milltir. Mae hi o gwmpas yr un maint, cyfaint (0.92), trwch (4.99 ar raddfa seiliedig ar drwch dŵr) a chrynswth (0.81) â'r Ddaear. Mae awyrgylch Gwener yn drwm ac yn niwlog ac o ganlyniad mae ei hwyneb yn guddiedig; mae'r niwl yn adlewyrchu golau'r haul hefyd ac mae hynny'n ei gwneud hi'n un o'r gwrthrychau mwyaf disglair yn y nefoedd. Mae probau diweddar wedi darganfod fod wyneb y blaned wedi'i britho â chraterau a rhychau, nid annhebyg i'r rhai a welir ar wyneb y Lleuad.

Gwener yn croesi o flaen yr haul; Mehefin 2012.

Mae sawl chwiliedydd gofod wedi ymweld â'r blaned ers y 60au cynnar, gan gynnwys nifer o chwiliedyddion Rwsieg, ac hefyd rhai a lawnsiwyd gan NASA. Darganfyddwyd fod Gwener yn llawer poethach na'r Ddaear achos bod ganddi gryf effaith tŷ gwydr.

Crewyd y llun radar (dde) gan y chwiliedydd gofod Magellan, a gafodd ei lawnsio yn y 80au hwyr.


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Gwener
Y Ddaear
Mawrth
Iau
Sadwrn
Wranws
Neifion
Saturn template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.