Elen o Gaerdroea

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cariad Elen a Paris gan Jacques-Louis David (1788, Louvre, Paris)

O fewn mytholeg Roegaidd, Elen o Gaerdroea (hefyd Elen o Droea neu Elen Fannog, neu yn syml Elen) oedd merch Zeus a Leda, a chwaer Clytemnestra, Castor a Pollux. Fe'i hystyriwyd y fenyw brydfertha yn y byd yn ôl mytholeg Roeg. Yn dilyn ei phriodi, hi oedd Brenhines Laconia, talaith o fewn Groeg Homeraidd, gwraig Brenin Menelaos. Achosodd ei phriod, y tywysog Paris o Gaerdroea, Ryfel Caerdroea

Mae elfenau o'i bywgraffiad yn dod gan awduron clasurol fel Aristoffanes, Cicero, Euripides a Homeros (yn yr Iliad ac yn Odyseia). Mae ei stori hi'n ymddangos yn Llyfr II o Aeneid gan Fyrsil.

Yn ei hieuenctid fe'i cipiwyd hi gan Theseus. Yn sgil cystadleuaeth rhwng ei chanlynwyr a'i phriodi, daeth Menelaus i'r brig. Yn ôl llw a gytunwyd rhyngddynt i gyd (Llw Tyndareus) roedd yn rhaid iddynt gynnig cymorth milwrol os cipiwyd hi. Arweiniodd y llw hwn at Ryfel Caerdroea. Pan briododd Menelaus roedd yn ifanc, ac mae yna amwysedd os oedd ei pherthynas gyda Paris yn un o sedogi neu o gipio.