Sandro Botticelli
Sandro Botticelli | |
---|---|
![]() Hunanbortread honedig o Sandro Botticelli, o'i lun Addoliad y Doethion. | |
Ffugenw | di Mariano Filipepi, Alessandro ![]() |
Ganwyd | Alessandro di Mariano di Vanni Filipepi ![]() c. 1445 ![]() Fflorens ![]() |
Bu farw | 17 Mai 1510 ![]() Fflorens ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Eidal ![]() |
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, drafftsmon, fresco painter ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Genedigaeth Gwener, Addoliad y Doethion, Primavera, Fortitude, Venus and the Three Graces Presenting Gifts to Giovanna degli Albizzi, Annunciation, Birth of Christ, Madonna and Child, Madonna and Child with St. John the Baptist, Madonna dei Candelesi, Q131561267 ![]() |
Arddull | portread, peintio hanesyddol, paentiadau crefyddol, alegori, paentiad mytholegol, celfyddyd grefyddol ![]() |
Mudiad | y Dadeni Cynnar, Florentine School ![]() |
llofnod | |
![]() |
Arlunydd o'r Eidal oedd Alessandro di Mariano di Vanni Filipepi, sy'n fwy adnabyddus fel Sandro Botticelli (1 Mawrth 1445 – 17 Mai 1510).[1]
Yn enedigol o Fflorens, nid oes llawer o wybodaeth ar gael am fywyd Botticelli. Dywed Giorgio Vasari iddo hyfforddi fel gôf aur yn wreiddiol. Erbyn 1462 mae'n debyg ei fod yn brentis i Fra Filippo Lippi. Yn 1470 roedd ganddo ei weithdy ei hun. Dyddia ei Addoliad y Doethion cyntaf o tua 1475–1476. Tua 1478, cynhyrchodd ddau o'i gampweithiau, La Primavera neu Alegori'r Gwanwyn (tua 1478) a Genedigaeth Gwener (tua 1485). Erbyn 1499, roedd y ddau yn fila Lorenzo di Pierfrancesco de' Medici yn Castello.
Yn 1481, galwodd Pab Sixtus IV Botticelli ac arlunwyr eraill o Fflorens ac Umbria i arlunio ffresco ar furiau y Cappella Sistina yn y Fatican. Wedi dychwelyd i Fflorens, ysgrifennodd draethawd ar ran o waith Dante gyda darluniau ganddo ef ei hun, a'i argraffu.
Yn nes ymlaen yn ei fywyd, roedd Botticelli yn un o ddilynwyr Savonarola. Dywed Vasari iddo roi'r gorau i arlunio am gyfnod dan ddylanwad Savonarola, a mynd i drafferthion ariannol.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Alfred Friedrich Gottfried Albert Woltmann; Karl Woermann (1885). History of Painting: The painting of the renascence. Dodd, Mead, & Company. t. 294.