Dante Alighieri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dante (o ffresgo ganoloesol)

Bardd a llenor o Eidalwr yn yr ieithoedd Eidaleg a Lladin oedd Dante Alighieri (Mai, 126514 Medi, 1321, a aned yn Fflorens. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerdd epig La Divina Commedia, ond roedd yn llenor dawnus yn yr iaith Ladin yn ogystal a edmygid yn ystod ei oes am ei draethodau ysgolheigaidd ar farddoniaeth Ladin glasurol yn bennaf.

Hanes[golygu]

Roedd Dante yn fab i gyfreithiwr yn Fflorens. Yn 1289 gwasanaethodd ym myddin Fflorens ac yn 1300 roedd yn farnwr yn y ddinas honno. Roedd wedi priodi Gemma Donati yn 1292 a chafodd bedwar plentyn ganddi. Yn 1301 cafodd ei anfon ar neges i weld y pab ond collodd ei blaid rym a chafodd ei alltudio o Fflorens. Bu farw yn Ravenna ar 14 Medi, 1321 a chafodd ei gladdu yno. Trwy gydol ei oes breuddwydiai am weld ymerodraeth Gristnogol newydd a fyddai'n dod â heddwch ac undeb i'r Eidal a gwledydd Cred. Pan yn blentyn, ac unwaith neu ddwy ar ôl hynny, cyfarfu â merch o'r enw Beatrice; ni phriodasant ond daeth hi i ymgorffori'r Awen a Chariad iddo (mae rhai ysgolheigion yn amau ei bodolaeth).

Gwaith llenyddol[golygu]

Treuliodd Dante tua deunaw mlynedd o'i oes yn ysgrifennu ei gampwaith, La Commedia (a adnabyddir heddiw fel La Divina Commedia - 'Y Ddrama Ddwyfol' - ar ôl teitl argraffiad pwysig a gyhoeddwyd 250 mlynedd yn ddiweddarach). Mae'n disgrifio pererindod ysbrydol enaid ddynol a arweinir gan Fferyllt (sy'n cynrychioli athroniaeth naturiol) a Beatrice (sy'n cynrychioli crefydd ddatguddiedig) trwy dair rhan Uffern a saith teras neu gylch Purdan i'r Baradwys ddaearol. Yna mae Fferyllt yn eu gadael ac mae Dante a Beatrice yn esgyn i gylchoedd y Nef ei hun. Mae'r Vita Nuova yn disgrifio cariad Dante at y ferch gig a gwaed Beatrice.

Dolenni allanol[golygu]

Cymdeithasau Dante[golygu]