Tomos o Acwin
| Tomos o Acwin | |
|---|---|
| Ganwyd | 1225 Roccasecca |
| Bu farw | 7 Mawrth 1274 Abaty Fossanova |
| Man preswyl | Gordo trolo |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | diwinydd, athro cadeiriol, offeiriad Catholig, athronydd, ysgrifennwr, diwinydd Catholig, ffrier, theology teacher |
| Swydd | athro cadeiriol |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Summa Theologica, Summa contra Gentiles, De regimine principum, Quinque viae, Commentary on Aristotle's Metaphysics, Postilla super Psalmos, Quaestio disputata De anima, Super Boetium De Trinitate, Sententia super Meteora, De unitate intellectus contra averroistas, De emptione et venditione, Commentarium super Job, Scriptum super libros Sententiarum, De ente et essentia |
| Prif ddylanwad | Boethius, Maimonides, Cicero, Al-Kindi, Johannes Scotus Eriugena, Averroes, Anselm o Gaergaint, Albertus Magnus, Avicenna, Awstin o Hippo, Platon, Aristoteles, yr Apostol Paul, Al-Ghazali, Pab Grigor I |
| Dydd gŵyl | 28 Ionawr, 7 Mawrth, Catholigiaeth |
| Mudiad | Tomistiaeth, rhyfel cyfiawn, ysgolaeth |
| Tad | Landulphe d'Aquino |
Offeiriad, athronydd, diwinydd a sant o'r Eidal oedd Thomas Aquinas, O.P. (hefyd Thomas o Aquin neu Acwin neu Aquino; c. 1225 - 7 Mawrth 1274). Oherwydd ei amlygrwydd fel diwinydd, adwaenir ef hefyd fel y Doctor Angelicus, Doctor Universalis a Doctor Communis. Ystyria'r Eglwys Gatholig ef fel yr athro pwysicaf i'r rhai sy'n astudio i fynd yn offeiriaid. Mae'n fwyaf enwog am ei weithiau Summa Theologica a Summa Contra Gentiles. Ef hefyd ysgrifennodd yr emyn Sacris Solemniis sy'n cynnwys Bara Angylion Duw.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Aquinas yng nghastell Roccasecca yn Nheyrnas Sicilia yn yr hyn sy'n awr yn Regione Lazio. Roedd o deulu o uchel dras, ei dad, Landulf, yn Gownt a'i fam yn perthyn i linach yr Hohenstaufen. Roedd ei ewythr, Sinibald, yn abad abaty Monte Cassino, a bwriad y teulu oedd i Thomas ei olynu.
Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Napoli, lle daeth dan ddylanwad Urdd y Dominiciaid. Roedd ei delu yn anfodlon iawn ar hyn, gan ei garcharu am flwyddyn, ond wedi i'r Pab gymeryd rhan yn y mater, rhyddhawyd ef ac ymunodd a'r Urdd. Bu'n astudio yn ysgol y Dominiciaid yng Nghwlen dan Albertus Magnus, yna symudodd gydag Albertus i Brifysgol Paris. Daeth yn ddarlithydd yng Nghwlen yn 1248, a dechreuodd ysgrifennu. Bu'n darlithio ym Mharis, Rhufain a dinasoedd eraill.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Genedigaethau 1225
- Marwolaethau 1274
- Athronwyr y 13eg ganrif o'r Eidal
- Athronwyr Cristnogol o'r Eidal
- Athronwyr ysgolaidd
- Diwinyddion y 13eg ganrif o'r Eidal
- Diwinyddion Cristnogol o'r Eidal
- Llenorion ffeithiol y 13eg ganrif o'r Eidal
- Llenorion ffeithiol Lladin o'r Eidal
- Llenorion Lladin yr Oesoedd Canol
- Pobl o Lazio
- Seintiau o'r Eidal