Divina Commedia

Cerdd epig Eidaleg gan Dante yw'r Divina Commedia, teitl gwreiddiol La Commedia.
Treuliodd Dante tua deunaw mlynedd o'i oes yn ysgrifennu ei gampwaith, gan weithio ar y gerdd hyd ei farwolaeth yn 1321. Mae'n disgrifio pererindod ysbrydol enaid ddynol a arweinir gan Fferyllt (sy'n cynrychioli athroniaeth naturiol) a Beatrice (sy'n cynrychioli crefydd ddatguddiedig) trwy dair rhan Uffern a saith teras neu gylch Purdan i'r Baradwys ddaearol. Yna mae Fferyllt yn eu gadael ac mae Dante a Beatrice yn esgyn i gylchoedd y Nef ei hun.
Cafodd y teitl presennol, La Divina Commedia ("Y Ddrama Ddwyfol"), ar ôl teitl argraffiad pwysig a gyhoeddwyd 250 mlynedd yn ddiweddarach. Cyfeithiwyd y gerdd i'r Gymraeg yn 1903 gan Daniel Rees dan y teitl Dwyfol Gân Dante.