Ioan Aurenau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Murlun o Ioan Aurenau o Hagia Sophia.

Mynach, archesgob Caergystennin, a sant yr Eglwys Fore oedd Ioan Aurenau (Groeg: Ἰωάννης ὁ Χρυσόστομος; tua 349 - 407), a hanai o deulu cyfoethog o Antiochia, prifddinas Syria a'r rhan ddwyreiniol yr Ymherodraeth Rufeinig.

Wedi dod yn fynach fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ac wedyn yn offeiriad yn eglwys dians Antiochia. Mae'n adnabyddus am ei ddawn i bregethu ac annerch y torfeydd. Ystyr ei enw Χρυσόστομος (Chrysostomos yn Saesneg) yw "y geg aur", sy'n cyfeirio at hyn. Wedi i ddelwau'r teulu ymherawdwr gael eu distrywio, yn 387, cyfansoddodd nifer fawr o esboniadau ysgrythyrol. Mae ei holl waith yn cynnwys wyth o gyfrolau'r Patrologia Graeca Migne.

Fe ddetholwyd yn Archesgob Caergystennin. Ond achosodd ei gwymp aml ddadlau gyda gwraig yr ymherawdr, Eudoxia, a chyda Theophilos, Pab Alecsandria. Fe'i alltudwyd ddwywaith i ororion gogledd -ddwyreiniol yr Ymherodraeth lle fu farw ym mlwyddyn 407. Mae dylanwadiadau Stoiciaidd yn amlwg yn ei ysgrifau olaf.

Derbyniwyd gweddillion y sant yng Ngaergystennin a chladdwyd nhw yn Eglwys yr Apostolion. Trawsglwyddwyd nhw i Rufain ar ôl y Goncwest Ottomanaidd ond anfonwyd nhw gyda rhai Gregor Nazianzos i'r Phanar.

Mae'r Eglwysi yn dathlu ei wyl ar 13 Medi a throsglwyddiad ei weddillion ym mis Ionawr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]