Hades (duw)
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch ei gwella drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. (Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yn y categori Categori:Dim-ffynonellau.)(Ionawr 2010) |
| Enghraifft o: | duw Groeg, death deity |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03g72 |
| Quora | Hades |

Duw'r isfyd ym Mytholeg Roeg oedd Hades (Hen Roeg: ᾍδης neu Άΐδης). Gelwid ef hefyd yn Plwton (Hen Roeg: Πλούτων). Cafodd trigfa'r meirwon yn yr isfyd yr enw Hades ar ei ôl ef.
Roedd yn fab i Cronos a Rhea ac yn frawd i Zews a Poseidon. Wedi'r rhyfel rhwng y duwiau a'r Titaniaid, rhannodd y tri brawd y ddaear rhyngddynt; yr awyr i Zews, y môr i Poseidon a'r isfyd i Hades.
Yn ôl un chwedl, cipiodd Hades Persephone, merch Demeter, duwies grawn a ffrwythlondeb, a mynd a hi i lawr i'r isfyd. Wedi Demeter golli ei merch, nid oedd dim yn tyfu ar y ddaear, a bu raid i Hades adael i Persephone ddychwelyd at ei mam. Fodd bynnag, cyn iddi adael, fe'i twyllodd i fwyta chwe hedyn pomgranad, ac o'r herwydd, roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i Hades am chwe mis o bob blwyddyn. Yn ystod y chwe mis pan oedd Persephone gyda'i mam, roedd planhigion yn tyfu ar y ddaear; yn ystod y chwe mis pan nad oedd Hades yn dyfiant; felly y cafwyd y tymhorau. Roedd Dirgelion Eleusis, a gynhelid tua mis Hydref, yn gysylltiedig â'r chwedl hon.