Rhea (mytholeg)
Gwedd
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch ei gwella drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. (Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yn y categori Categori:Dim-ffynonellau.)(Ionawr 2010) |
| Enghraifft o: | Titan, duwies |
|---|---|
| Rhan o | Uranids |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0g934 |

Ym mytholeg Roeg, un o'r Titaniaid a gwraig Cronos oedd Rhea (Hen Roeg: Ῥέα) neu Rheia (Ῥεία). Roedd yn fam i'r genhedlaeth gyntaf o'r Deuddeg Olympiad: Demeter, Hera, Hades, Hestia, Poseidon a Zews.
Roedd proffwydoliaeth y diorseddid Cronos gan un o'i blant, ac o'r herwydd, llyncodd Demeter, Hera, Hades, Hestia, a Poseidon cyn gynted ag y ganwyd hwy. Rhoddodd Rhea enedigaeth i'r chweched plentyn, Zews, mewn ogof ar Fynydd Ida ar ynys Creta, a rhoddodd garreg, yr Omphalos, mewn dillad baban i Cronos ei llyncu. Wedi iddo dyfu, gorfododd Zews ei dad i chwydu ei frodyr a'i chwiorydd, a bu rhyfel, y Titanomachia, rhyngddynt hwy a'r Titaniaid, a diorseddwyd Cronos gan Zews.
Roedd Mynydd Ida yn gysegredig iddi.