Neidio i'r cynnwys

Hera

Oddi ar Wicipedia
Hera
Enghraifft o:duw Groeg, duwdod ffrwythlondeb, duw Olympaidd Edit this on Wikidata
Rhan oDeuddeg Olympiad Edit this on Wikidata
Enw brodorolἭρα Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03g3c edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cerflun o Hera yn y Louvre

Brenhines y duwiau a gwraig Zews ym mytholeg Roeg oedd Hera (Hen Roeg: Ἥρα) neu Here (Ἥρη) yn y dafodiaith Ionig. Roedd yn dduwies merched a phriodas, ac yn cyfateb i Juno ym mytholeg Rhufain.

Roedd yn ferch i'r Titaniaid Cronos a Rhea. Dangosir hi'n aml yn gwisgo'r polos, coron uchel. Addolid hi'n arbennig fel "Hera Argos", yn ei chysegr rhwng Argos a Mycenae, lle cynhelid gwyliau'r Heraia er anrhydedd iddi. Roedd cwlt Hera ar ynys Samos hefyd, a themlau iddi yn Olympia, Corinth, Tiryns, Perachora ac ynys santaidd Delos.

Ei phlant gyda Zews oedd Ares, Hebe, Eris ac Eileithyia; roedd Hephaestus hefyd yn fab iddi. Roedd yn casau'r arwr Heracles, oedd yn fab i Zews ac Alcmene ac yn nodedig am ei gryfder eithriadol a'i ddewrder. Pan oedd Heracles yn Thebai, priododd Megara, merch y brenin Creon. Fodd bynnag gwnaeth Hera ef yn wallgof, a lladdodd Heracles Megara a'u plant. Pan sylweddolodd beth roedd wedi ei wneud aeth at Oracl Delphi am gyngor, a than ddylanwad Hera gyrrodd yr oracl ef i wasanaethu'r brenin Eurystheus am ddeuddeg mlynedd a gwneud unrhyw dasg y byddai'r brenin yn ei orchymyn iddo.