Louvre

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Amgueddfa yn ninas Paris, Ffrainc yw Amgueddfa'r Louvre (Ffrangeg: Musée du Louvre). Dyma amgueddfa genedlaethol Ffrainc. Mae'n un o'r amgueddfeydd mwyaf a phwysicaf yn y byd sy'n gartref i sawl gwaith celf enwog o gyfnod yr Henfyd ymlaen.

Dechreuodd y Louvre fel palas brenhinol. Cynlluniwyd y colonâd marweddog gan Claude Perrault (1613 - 1688), brawd Charles Perrault, awdur y casgliad chwedlau gwerin enwog Contes de ma mère l’Oye. Agorwyd yr amgueddfa yn 1793 ar ôl gwrthdroi brenhiniaeth Ffrainc gan y Chwyldro Ffrengig. Cnewyllyn yr amgueddfa oedd casgliad celf personol brenhinoedd Ffrainc. Ychwanegwyd at y casgliad gan Napoleon Bonaparte a chan lywodraeth Ffrainc ac unigolion yn y 19g, yn cynnwys casgliad arbennig o waith yr Argraffiadwyr.

Mae gan yr amgueddfa arwynebedd o 60 000 m², a chafodd 8,300,000 o ymwelwyr yn 2007. Ceir rhai o weithiau celf enwocaf y byd yma, yn arbennig y Mona Lisa, Y Forwyn a Phlentyn gyda'r Santes Ann, Venus de Milo, Deddfau Hammurabi a Buddugoliaeth Adeiniog Samothrace. Yma hefyd mae'r dabled garreg sy'n cynnwys Cyfraith Hammurabi. Mae gwaith yr Argraffiadwyr yn cael ei gadw ar wahân yn y Jeu de Palmes yng Ngerddi'r Tuileries.

O flaen y prif adeilad ceir "Pyramid Pompidou", a enwir ar ôl Georges Pompidou (1911-1974), Prif Weinidog Ffrainc yn y 1960au a dechrau'r 1970au.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.