Mona Lisa
Gwedd
| Enghraifft o: | paentiad |
|---|---|
| Crëwr | Leonardo da Vinci |
| Deunydd | paent olew, poplar panel |
| Gwlad | Gweriniaeth Fflorens |
| Dechrau/Sefydlu | 1500s |
| Genre | portread |
| Lleoliad | Salle des États, Louvre |
| Perchennog | gwladwriaeth Ffrainc |
| Prif bwnc | Lisa del Giocondo |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Rhanbarth | Paris |
| Dynodwyr | |
Llun gan Leonardo da Vinci sydd yn awr yn amgueddfa'r Louvre ym Mharis yw'r Mona Lisa, weithiau Monna Lisa (Eidaleg: La Gioconda; Ffrangeg: La Joconde). Mae'n lun mewn olew, 77 × 53 cm, ac fe'i harluniwyd rhwng 1503 a 1507.
Ystyrir y Mona Lisa yn gyffredinol yn arlunwaith enwocaf y byd; mae'r wên enigmatig yn arbennig o enwog. Credir mai Lisa del Giocondo oedd y ferch a ddangosir yn y llun. Wedi marwolaeth Leonardo, daeth y llun i feddiant brenin Ffrainc, ac yn ystod y 16g roedd ar furiau Castell Fontainebleau. Am gyfnod, bu yn ystafell wely Napoleon Bonaparte, ond treuliodd amser mewn seler hefyd. Ers y 18g mae wedi bod yn y Louvre. Cafodd y llun ei ddwyn yn 1911, ond cafwyd hyd iddo yn yr Eidal.