Claude Perrault
Gwedd
| Claude Perrault | |
|---|---|
| Ganwyd | 25 Medi 1613 Paris |
| Bu farw | 9 Hydref 1688 o sepsis Paris |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
| Addysg | Meddyg Meddygaeth |
| Galwedigaeth | biolegydd, meddyg, anatomydd, pensaer, ysgrifennwr, swolegydd, cyfieithydd, botanegydd, ffisiolegydd, damcaniaethwr celf |
| Adnabyddus am | Louvre Colonnade, Arsyllfa Paris |
Pensaer, llenor a meddyg o Ffrainc oedd Claude Perrault (25 Medi 1613 - 9 Hydref 1688).[1] Yn enedigol o ddinas Paris, roedd yn frawd i Charles Perrault, awdur y casgliad chwedlau gwerin enwog Contes de ma mère l'Oye.
Cyfieithodd De architectura, llyfr Vitruvius ar bensaernïaeth, o'r Lladin i'r Ffrangeg a chynlluniodd golonâd y Louvre. Bu hefyd yn un o'r rhai, fel ei frawd iau, a gymerodd ran yn y ddadl boeth rhwng pleidwyr y Moderniaid a phleidwyr yr Hynafwyr (Brwydr y Llyfrau neu Brwydr y Moderniaid a'r Hynafwyr) i bennu cwrs llenyddiaeth a chelf Ffrainc yn yr 17g.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Education in France (yn Saesneg). Cultural Services of the French Embassy. 1962. t. 4.