Neidio i'r cynnwys

Heracles

Oddi ar Wicipedia
Heracles
Cerflun o Ercwlff yng Nghastell y Waun, Cymru
Enghraifft o:hanner-duw ym mytholeg Roeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03lfz edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Heracles (Hen Roeg: Ἡρακλῆς), Hercules i'r Rhufeiniaid, hen ffurf Cymraeg Ercwlff, yn gymeriad mewn mytholeg Roeg. Roedd yn fab i Zews ac Alcmene, ac roedd nifer o linachau brenhinol yn ei hawlio fel cyndad.

Roedd Heracles yn nodedig am ei gryfder eithriadol a'i ddewrder, ond roedd y dduwies Hera, gwraig Zews, yn ei gasàu. Pan oedd Heracles yn Thebai, priododd Megara, merch y brenin Creon. Fodd bynnag gwnaeth Hera ef yn wallgof, a lladdodd Megara a'u plant. Pan sylweddolodd beth yr oedd wedi ei wneud aeth at Oracl Delphi am gyngor, a than ddylanwad Hera gyrrodd yr oracl ef i wasanaethu'r brenin Eurystheus am ddeuddeg mlynedd a gwneud unrhyw dasg y byddai'r brenin yn ei orchymyn iddo.

Pen Heracles, cerflun yn Amgueddfa'r Glyptothek, München.

Rhoddwyd deuddeg tasg iddo i gyd. Yn ôl Apollodorus (2.5.1-2.5.12) roeddynt yn y drefn ganlynol:

  1. Lladd Llew Nemea
  2. Dinistrio Hydra Lernaea
  3. Dal Ewig Ceryneia
  4. Dal Baedd Erymanthia
  5. Glanhau stablau Augea
  6. Lladd Adar Stymphalia
  7. Dal Tarw Creta
  8. Casglu Cesyg Diomedes
  9. Dwyn Gwregys Hippolyte
  10. Gyrru Gwartheg Geryon
  11. Dwyn Afalau yr Hesperides
  12. Cymeryd Serberws yn garcharor

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Spurling, Jon (27 Mai 2015). "Leigh Roose: The 'reckless', controversial war hero who kept goal for Arsenal and Villa". Adalwyd 13 Awst 2016.