Argos (dinas)
| |
Math |
dinas ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
22,209 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Abbeville, Ardea, Episkopi, Mtskheta, Argoncilhe ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Bwrdeistref Argos-Mykines ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
138.14 km² ![]() |
Uwch y môr |
42 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
37.6333°N 22.7292°E ![]() |
Cod post |
21200, 212 31 - 212 32 ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
pensaernïaeth Fysantaidd ![]() |
Mae Argos (Groeg: Άργος, Árgos,) yn ddinas yn y Peloponnesos yng Ngwlad Groeg, gerllaw Nafplio. Ceir olion o'r cyfnod Neolithig yn y cysegr yn Argolis, rhyw 45 o stadia o Argos, i gyfeiriad Mycenae. Roedd y fangre yma wedi ei chysegru i'r dduwies Hera. Yn y cyfnod Myceneaidd roedd Argos yn ddinas bwysig, ynghyd â dinasoedd cyfagos Mycenae a Tiryns. Ym mytholeg Roeg mae Perseus yn mynd ag Andromeda i Argos wedi iddynt briodi, ac maent yn sefydlu llinach brenhinol y Perseidiaid yno.
Wedi'r 6g CC. daeth Sparta yn fwy pwerus, ac effeithiodd hyn ar safle Argos. Roedd cryn elyniaeth rhwng Argos a Sparta, ac ni ymladdodd Argos yn ystod Rhyfeloedd Groeg a Persia. Yn ystod y Rhyfel Peloponnesaidd yn y 5g CC. roedd Argos yn bleidiol i Athen yn erbyn Sparta, ond ni chymerodd lawer o ran yn yr ymladd. Yn y 12g adeiladwyd castell, Kastro Larissa, ar fryn Larissa, safle'r hen Acropolis.
Mae dinas Argos yn awr yn brifddinas y dalaith o'r un enw, un o dair talaith yn nomos Argolis.Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 27,550.