Delos
| Math | ynys, Safle Treftadaeth y Byd, anheddiad dynol |
|---|---|
| Poblogaeth | 24 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cyclades |
| Sir | Bwrdeistref Mykonos, Commune of Mykonos |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 350.64 ha |
| Uwch y môr | 112 metr |
| Gerllaw | Môr Aegeaidd |
| Cyfesurynnau | 37.39121°N 25.27122°E |
| Cod post | 846 00 |
| Hyd | 5 cilometr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |

Mae Delos (Groeg: Δήλος, Dhilos) yn ynys yng nghanol y cylch o ynysoedd a elwir y Cyclades yng Ngwlad Groeg. Roedd yr ynys yn bwysig ym mytholeg Roeg; dywedid mai yma yr oedd man geni y duw Apollo a'r dduwies Artemis.
Credir fod pobl wedi bod yn byw ar Delos ers y trydydd mileniwm cyn Crist. Yn ôl yr hanesydd Thucydides roedd y boblogaeth wreiddiol yn fôr-ladron Cariaidd, a yrrwyd o'r ynys gan y brenin Minos o ynys Creta. Erbyn cyfnod Homeros roedd yr ynys yn enwog fel man geni Apollo ac Artemis. Rhwng 900 CC a 100 OC., ystyrid Delos yn ynys sanctaidd, gyda theml i Dionysos yno hefyd.
Ar ôl Rhyfeloedd Groeg a Phersia, daeth Delos yn fan cyfarfod Cynghrair Delos, a sefydlwyd yn 478 CC, a chedwid trysorfa'r gynghrair yma hyd 454 CC pan y'i symudwyd i Athen gan Pericles. Ers 1873 mae'r École Française d'Athènes wedi bod yn cloddio yma, a gwnaed nifer fawr o ddarganfyddiadau. Yn 1990 cyhoeddwyd Delos yn Safle Treftadaeth y Byd.
