Pericles

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pericles, copi Rhufeinig o gerflun gwreiddiol gan Cresilas (Amgueddfa Brydeinig, Llundain).

Gwladweinydd a chadfridog Athenaidd oedd Pericles, Groeg: Περικλῆς, Lladin: Pericles (490 CC. – 429 CC. Ef oedd prif arweinydd Athen yn ystod ei hoes aur, ac ystyrid ef yn areithiwr heb ei ail.

Ganed Pericles tua 490 CC yn Cholargos, gerllaw Athan, yn fab i . Xanthippos ac Agariste. Yn bymtheg oed, roedd yn un o’r gwragedd a phlant a symudwyd i Ynys Salamis pan gipiwyd Athen gan fyddin Ymerodraeth Persia.

Daeth yn amlwg yng ngwelidyddiaeth Athen fel un o gefnogwyr Ephialtes a’r mudiad democrataidd. Cefnogodd ymgyrch Ephialtes i leihau grym yr Areopagus, ac wedi llofruddiaeth Ephialtes yn 461 CC daeth Pericles yn arweinydd y blaid ddemocrataidd. Rhwng 460 CC a 445 CC etholwyd ef i swydd strategos yn rheolaidd, ac arweiniodd ymgyrchoedd milwrol llwyddiannus yn erbyn Boeotia ac Aegina. Dan ei arweiniad ef, datblygodd Cynghrair Delos i fod yn ymerodraeth Athen. Gwaethygodd y berthynas rhwng Athen a Sparta yn raddol.

Cryfhaodd Pericles ddemocratiaeth yn Athen, a dechreuodd yr arfer o dalu cyflog i’r rhai a ddewisid fel rheithwyr neu i swyddi cyhoeddus eraill, gan ei gwneud yn bosibl i ddinasyddion tlotach wasanaethu, yn hytrach na dim ond y cyfoethogion. Ef oedd prif ysgogydd adeiladu’r Parthenon.

Pan ddechreuodd Rhyfel y Peloponnesos, dadleuai Pericles dros strategaeth o osgoi brwydr a Sparta ar y tir, er bod byddin Spartaidd dan eu brenin Archidamus II yn anrheithio Attica yn rheolaidd, a dibynnu ar y llynges i ennill y rhyfel. Bu farw o’r pla yn 429 CC, wedi i’w feibion, Xanthippos a Paralos, farw o’r pla o’i flaen.