Artemis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Artemis
Duwies yr helfa, fforestydd a bryniau, y lleuad, a saethyddiaeth[1]
Diane de Versailles Leochares.jpg
Y Diana o Versailles, copi Rhufeinig o'r cerflun Groegaidd gan Leochares
(y Louvre)
Preswylfa Mynydd Olympus
Symbolau Bwa, saethau, ceirw, cŵn hela, a'r lleuad
Rhieni Zeus a Leto
Siblingiaid Apollo, Aeacus, Angelos, Aphrodite, Ares, Athena, Dionysus, Eileithyia, Enyo, Eris, Ersa, Hebe, Helen (mytholeg), Hephaestus, Heracles, Hermes, Minos, Pandia, Persephone, Perseus, Rhadamanthus, y Graces, y Horae, y Litae, yr Awenau, a'r Moirai
Cywerthydd Rhufeinig Diana

Duwies Roegaidd oedd Artemis (Groeg: (enwol) Ἄρτεμις, (genidol) Ἀρτέμιδος). Ym mytholeg Roeg glasurol, disgrifir Artemis fel arfer yn ferch Zeus a Leto, a merch efaill Apollo. Hi oedd duwies Helenaidd y fforestydd a'r bryniau, geni plant, gwyryfdod, ffrwythlonder, a hela, a darlunir hi fel arfer fel heliwr yn cario bwa a saethau.[2] Roedd y carw a'r gypreswydden yn sanctaidd iddi hefyd. Yng nghyfnodau Helenaidd diweddarach, roedd hi hefyd yn cymryd y rôl hynafol o Eileithyia a cynorthwyo geni plant.

Daeth Artemis i'w huniaethu â Selene yn nes ymlaen,[3] a gyda Thitan-wraig; hi oedd duwies Roegaidd y lleuad a darlunir â lleuad gilgant uwch ei phen. Roedd hi hefyd yn cael ei huniaethu â'r dduwies Rufeinig Diana,[4] â'r dduwies Etrwsgaidd Artume, ac â'r dduwies Roegaidd neu Gariaidd Hecate.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Walter Burkert, 1985. Greek Religion (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Harvard)
  • Robert Graves (1955) 1960. The Greek Myths (Penguin)
  • Karl Kerenyi, 1951. The Gods of the Greeks
  • Seppo Telenius (2005) 2006. Athena-Artemis (Helsinki: Kirja kerrallaan)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Artemis". https://www.britannica.com/topic/Artemis-Greek-goddess. Adalwyd 17 April 2017.
  2. "Y ddaear yw'i sffêr briodol, a'r darnau heb eu trin yn enwedig, fforestydd a bryniau, lle bo bwystfilod gwyllt yn doreithiog
    . . . ." Hammond a Scullard (golygwyr), The Oxford Classical Dictionary. (Oxford: Clarendon Press, 1970) 126.
  3. Hammond, Oxford Classical Dictionary, 970-971.
  4. Hammond, Oxford Classical Dictionary, 337-338.
  5. "Mae Artemis yn ganfyddadwy yn aml â duwiesau tramor sydd yn debyg iawn iddi." Hammond, Oxford Classical Dictionary, 127.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: