Persephone
| Enghraifft o: | duw Groeg |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/061rn |
| Quora | Persephone |

Duwies ym mytholeg Roeg oedd Persephone (Hen Roeg: Περσεφόνη); ffurf Homerig Περσεφονηία, Persephonēia. Cyfeirir ati hefyd fel Core (Κόρη, Korē, "merch", "morwyn"). Yn y traddodiad Rhufeinig, gelwid hi yn Proserpina. Roedd yn ferch i Demeter, duwies grawn a thyfiant; yn ôl rhai traddodiadau, Zews oedd ei thad.
Roedd Dirgelion Eleusis, a gynhelid tua mis Hydref, yn gysylltiedig â hi, yn arbennig y chwedl amdani hi a'i mam. Roedd Persephone wedi ei chipio gan Hades, duw yr isfyd. Wedi i Demeter golli ei merch, nid oedd dim yn tyfu ar y ddaear, a bu raid i Hades adael i Persephone ddychwelyd at ei mam. Fodd bynnag, cyn iddi adael, fe'i twyllodd i fwyta chwech hedyn pomegranad, ac o'r herwydd, roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i Hades am chwe mis o bob blwyddyn. Yn ystod y chwe mis pan oedd Persephone gyda'i mam, roedd planhigion yn tyfu ar y ddaear; yn ystod y chwe mis pan oedd yn Hades nid oedd tyfiant; felly y cafwyd y tymhorau.