Diana (mytholeg)
Gwedd
| Enghraifft o: | duwdod Rhufeinig, epithet |
|---|---|
| Rhan o | Dii Consentes |
| Enw brodorol | Diana |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02bg9 |

Ym mytholeg Rhufain, roedd Diana yn dduwies hela, y lleuad a gwyryfdod. Mae'n cyfateb i Artemis ym mytholeg Roeg, ond roedd Diana o darddiad Eidalaidd.
Dywedir i Artemis/Diana gael ei geni gyda'i hefaill Apollo ar ynys Delos, yn ferch i Zews/Iau a Leto/Latona. Cysylltir hi ag anifeiliad gwyllt, ac roedd llwyni derw yn gysegredig iddi. Roedd hefyd yn dduweies ffrwythlondeb.
Fel Artemis, cysylltid Diana yn arbennig a dinas Effesus, lle roedd teml fawr iddi, Teml Artemis. Cofnodir i'r apostol Paul, ar ymweliad ag Ephesus i genhadu, greu terfysg ymysg gofaint arian oedd yn gwneud bywoliaeth o wneud a gwerthu cerfluniau o'r dduwies. Cofnodir i'r terfysgwyr weiddi "Mawr yw Diana yr Effesiaid!".