Hela

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hela Baedd, tacuinum sanitatis casanatensis (14eg ganrif)

Yr ymarfer o erlid anifeiliaid byw yw hela, gan amlaf bywyd gwyllt ar gyfer bwyta, adloniant, neu masnach. Me defnydd cyfoes y term yn cyfeirio ar hela cyfreithlon yn hytrach na herwhela. Cyfeirir at yr anifeiliaid a ddelir fel helwriaeth, gan amlaf maent yn famaliaid neu'n adar.

Gellir hela hefyd gyfeirio at waredu ar fermin, fel modd o reoli pla i atal ymledaeniad heintiau a achosir gan or-boblogaeth. Mai rhai sydd o blaid hela hefyd yn dadlau y gall hela fod yn elfen bwysig o reoli bywyd gwyllt,[1] ar mwyn helpu cynnal poblogaeth iach o anifeiliaid o fewn gallu cynhaliaeth system ecoleg yr amgylchedd lle nad yw rheolaeth naturiol megis ysglyfaethwyr yn bodoli.[2]

Pysgota yw'r term a ddefnyddir ar gyfer yr erlid o bysgod, a ni gaiff ei gategoreiddio fel hela yn gyffredin.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Sonia Beirdd yr Uchelwyr yn aml iawn am hela, ac felly hefyd y y cyfreithiau Cymreig. Nodir yr anifeiliaid canlynol yn aml: y carw coch, yr iwrch, y baedd gwyllt, y llwynog, y dyfrgi, y crëyr, aderyn y bwn, y gylfinir, yr aran a gwenyn. Câi unrhyw un ddal y llwynog, y dyfrgi a’r iwrch a chadw gwenyn. Yn Y Naw Helwriaeth, sef testun a luniwyd tua chanol yr 16eg ganrif sy’n crybwyll y carw, yr iwrch, yr ysgyfarnog, y llwynog, y dringhedydd (sef y gath goed, y ffwlbart neu’r wiwer), y ceiliog coed (sef ffesant neu geiliog du'r mynydd, o bosibl, neu 'aderyn helwriaeth' yn gyffredinol), eogiaid, gwenyn, baeddod gwyllt ac eirth, er bod yr anifeiliaid hyn wedi diflannu o wledydd Prydain. [1] adalwyd 21 Rhagfyr 2015</ref>

Roedd sawl dull hela, nid yn unig ymlid gan helgwn a saethu gyda bwa ond hefyd drwy ddefnyddio rhwyd rawn (rhawn yw blew ceffyl). Er i r gael eu defnyddio weithiau ar gyfer dal anifeiliaid mawr fel y ceirw a'r baedd gwyllt yn ogystal â chreaduriaid bach fel pysgod, adar, cwningod ac ysgyfarnogod, ystyrid defnyddio rhwyd yn ddull 'dianrhydded' gan rai. Ceid dulliau hela mwy 'gwerinol a chanodd Maredudd ap Rhys gerddi gofyn a diolch am rwyd bysgota. Canodd Gruffudd ap Maredudd at y defnydd o dryfer i ddal eog ifanc (neu 'gleisiad'), a chrybwyllodd yr Ustus Llwyd at y defnydd o rwydi ddal dyfrast. Roedd sawl dull o hela adar, fel y gwelir yng nghywydd Dafydd ap Gwilym, 'Ymddiddan â'r Cyffylog', sef drwy eu saethu, eu dal mewn magl ac, efallai, eu gyrru i fan agored neu lannerch mewn coed, fel y gellid eu dal mewn rhwydi.

O'r holl anifeiliaid, yr hydd, oedd yr anifail hela uchaf ei fri, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi'r cyfnod. Sonia Guto’r Glyn mewn cerdd i ofyn am walch fod Deon Bangor, Risiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, yn mwynhau hela hydd (cerdd 60.38).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ted Williams (Mawrth 2002). Wanted: More Hunterscopy URL
  2.  Craig A Harper. Quality Deer Management Guidelines for Implementation. Agricultural Extension Service, The University of Tennessee. Adalwyd ar 2006-12-20.