Daeargi Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Daeargi Cymreig
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Màs9 cilogram, 9.5 cilogram Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Daeargi Cymreig mewn sioe yn Katowice, Gwlad Pwyl

Daeargi (neu terrier) crychflew a thorgoch yn wreiddiol sy'n frodorol o Gymru yw'r Daeargi Cymreig neu fytheaid. Cedwid pac ohonynt i hela ceirw a baeddod gwylltion yn y canol oesoedd, ond i ddifa llwynogod erbyn heddiw, gyda'r helwyr ar geffylau, neu ar droed - fel yn Eryri.

Hawlir gan rai mai dyma'r brid hynaf o gŵn yng ngwledydd Prydain.[1] Cafodd ei gofrestru fel brid ar wahân, swyddogol yn nechrau'r 19g. Mae ar Restr Cŵn Prin Clwb Cennel y Deyrnas Unedig gyda dim ond tua 300 o gŵn bach yn cael eu cofrestru'n flynyddol.

Fe'i bridiwyd yn wreiddiol i ddal llwynogod, moch daear a llygod mawr. Ers dechrau'r 20g caiff ei gydnabod fel ci anwes da ac fel ci sioe ond er hyn mae ei briodweddau cynnar fel cryfder a chymeriad ci hela wedi eu cadw. Mae yn ei anian i durio'r ddaear ar drywydd ysglyfaeth. Disgwylir i'r Daeargi iach fyw am oddeutu 12 - 13 mlynedd ac mae fel arfer yn llawn ynni bron hyd y diwedd.

Disgrifiad corfforol[golygu | golygu cod]

Du a melyngoch yw lliw ei got ddwbwl, sy'n eithaf rhychiog ar yr wyneb ac yn wlanog oddi tano. Mae ei ben, ei goesau a'i fol yn felynddu a'i gefn ar adegau'n ddu, er bod y fenyw fel arfer yn unlliw - melynddu. Mae'n frid cadarn canolig ei faint sy'n tyfu ar gyfartaledd i 15.5 modfedd (39 cm) ac yn 20–22 pwys (9.1–10.0 kg).[2] Arferid tocio'i cynffon er mwyn iddo edrych yn fwy sgwâr, nes i hyn gael ei wahardd yn 2006. Gyda'i gynffon wedi'i thocio roedd ei hyd yn hafal i'w uchder. Gellir disgrifio'i ben hefyd yn sgwâr, siâp bricsen gyda wisgers a barf.[3] Mae wyneb y Daeargi Cymreig pur ei waed (y pedigri) yn fwy ofal (hirgrwn). Mae dwy haen i'w flew: y cot isaf, tonnog a rhychiog a'r haen oddi tano'n fwy gwlanog. Pwrpas yr haen uchaf, bras yw ei gadw'n lân rhag faw a glaw a gwynt.[4] Du yw lliw'r cot am y flwyddyn gyntaf gan newid yn y man i felynddu.

Cŵn nodedig[golygu | golygu cod]

Yn y flwyddyn 1000 cyflwynwyd y daeargi Cymreig i'r Unol Daleithiau. Newidiodd y gwleidydd Clement Attlee arfbais y teulu i gynnwys llun dau o'r daeargwn hyn, a bu wrthi'n ddyfal am flynyddoedd yn eu bridio. Y person a wnaeth fwyaf dros y Daeargi Cymreig, mae'n debyg, oedd Bargyfreithiwr Walter S. Glyn, beirniad, awdur erthyglau a llysgennad mwya'r brid. Cyflwynodd Walter S. Glynn ei Ddaeargi Cymreig a fagwyd ym Mhwllheli, wedi iddo farw, ac wedi iddo gael ei stwffio, i'r Amgueddfa Brydeinig yn Tring yn 1932. Mae'n dal yno, gydag enw'r ci yn amlwg gerllaw: 'Dim Saesonaeg'. Gwyddom i 'Dim Saesonaeg' gael ei ddangos gyntaf mewn sioe ym Mangor fel ci bychan yn 1887, fel y cyntaf o eiddo WWalter S. Glynn. Fe'i prynodd gan fridiwr a fferyllydd o Bwllheli R. O. Pugh. Enillodd 'Dim Saesonaeg' 28 o dystysgrifau sialens (Challenge certificates) mewn sioeau ledled Prydain. Enillodd un dystysgrif yn fwy na'i fab 'Cymro o'r Cymry' a ddaeth i'r brig ar dro'r ganrif a chael ei ddewis gan yr arlunydd cŵn nodedig Miss Frances Fairman i ddylunio tystysgrifau at Sioe y K.C. yn 1899.

Yn y 1960au, tra roedd yr Arlywydd Kennedy yn dioddef o anhwylder i'w gefn, trefnodd y meddyg iddo fynd i nofio. Ei bartner yno oedd ei gi Charlie a rhoddodd merch Kennedy lun o'r ddau ar ddalen flaen cylchgrawn merched.[5]

Mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir y cofnod cyntaf yn y Gymraeg am y Daeargi Cymreig yng ngwaith Dafydd ab Edmwnd yn y 15g (DE 114): Eissie mawr nad oes i mi / wedd organ o ddaeargi. Ceir hefyd cyffelybiaeth hyfryd gan Forgan Llwyd yn 1653 pan ddywedodd yn (MLl i. 179): ...fel sŵn tonnau’r môr, neu ddaeargwn yn cyfarth.[6]

Tymer[golygu | golygu cod]

Esblygodd y daeargi hwn dros gyfnod o gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd i fod gi stoig, annibynnol ac i wneud penderfyniadau ar ei liwt ei hun. O ganlyniad mae ei ddisgyblu'n beth sy'n cymryd amser, yn wir yn rhywbeth dyddiol. Ar restr Stanley Coren, The Intelligence of Dogs caiff ei restru yn y 53ydd safle, sef deallusrwydd canolig, normal. Ond niod yw hyn yn golygu nad yw'n deall y gorchmynion a roddir iddo; yn aml, mae'n golygu fod y Daeargi Cymraeg yn gwneud penderfyniad gwahanol, a gallant fod yn eithaf creadigol a chyflym yn penderfynu sut i ymateb i amgylchiadau gwahanol. Ar adegau, maen nhw'n cyfarth yn uchel am gyfnod hir, pan gredant fod perygl gerllaw. Maen nhw wrth eu boddau'n tyllu mewn pridd.

Maent yn llawn o ynni ac nid yw rhedeg o amgylch buarth y fferm yn ddigon iddyn nhw ac mae angen eu hysbrydoli rhag iddynt ddiflasu a chreu difrod. Maent wrth eu boddau gyda phlant ac maen nhw wrth eu boddau'n ymlid pêl neu degan yn ogystal â nofio.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "NZKC - Breed Standard - Welsh Terrier". Clwb Cennel Seland Newydd. Cyrchwyd 30 Hydref 2011.
  2. "CKC Breed Standards: Welsh Terrier". Canadian Kennel Club. Cyrchwyd 30 Hydref 2011.
  3. "AKC MEET THE BREEDS: Welsh Terrier". American Kennel Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-24. Cyrchwyd 30 Hydref 2011.
  4. "Welsh Terrier: Dog Breed Selector". animal.discovery.com. Cyrchwyd 30 Hydref 2011.
  5. [Gweler First Dogs - American Presidents And Their Best Friends cyfrol gan Bardi Mclennan.
  6. [1]Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd 20 Hydref 2015


Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).