Robert Graves
| Robert Graves | |
|---|---|
| Ganwyd | Robert von Ranke Graves 24 Gorffennaf 1895 Wimbledon |
| Bu farw | 7 Rhagfyr 1985 Deià |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, nofelydd, cyfieithydd, dramodydd, sgriptiwr, academydd, person milwrol, beirniad llenyddol, awdur ffuglen wyddonol, mythograffydd, ysgrifennwr, adolygydd theatr |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | I, The White Goddess, The Greek Myths |
| Arddull | traethawd |
| Tad | Alfred Perceval Graves |
| Mam | Amalie Von Ranke |
| Priod | Nancy Nicholson, Beryl Pritchard |
| Plant | Lucia Graves, Tomás Graves, Jennifer Graves, David Graves, Catherine Graves, Samuel Graves, William Graves, Juan Graves |
| Gwobr/au | Gwobr Goffa James Tait Black, Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Gwobr Russell Loines am Farddoniaeth, Gwobr Hawthornden |
Bardd a nofelydd o Sais oedd Robert Graves (24 Gorffennaf 1895 – 7 Rhagfyr 1985). Roedd ganddo gysylltiad agos â Chymru, cysylltiad a barodd ar hyd ei oes. Ef a wnaeth y datganiad enwog ei fod yn "Gymro trwy fabwysiadu" (I'm Welsh by adoption).
Roedd Graves yn gyfaill i'r beirdd Siegfried Sassoon, Wilfred Owen, W. H. Davies a David Cuthbert Thomas a saethwyd ac anfarwolwyd ganddo mewn sawl cerdd. Ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhengoedd y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol.
Ei wraig gyntaf oedd yr arlunydd, Nancy Nicholson. Priododd Beryl Pritchard (1915–2003) ym 1950.

Cysylltiadau Cymreig
[golygu | golygu cod]
Prynnodd tad Graves, y bardd Gwyddelig Alfred Perceval Graves (Celtydd brwd), gartref gwyliau, yn Llanbedr ger Harlech yng Ngwynedd, sef "Plas Erinfa".[1]
Sgwennodd lawer o gerddi'n disgrifio'r cefn gwlad Cymru; sgwennodd sawl cerdd am bethau Cymreig, gan gynnwys y cerddi A Welsh Incident a The White Goddess (1948), un o'i weithiau pwysicaf, cerdd am fytholeg sy'n dystiolaeth o'i gariad at Y Mabinogi. Rhaid cofio hefyd mai ei ddewis ef oedd ymuno gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, yn hytrach na chatrawd o Loegr. Mae'n bur debyg hefyd fod ei ail wraig, Beryl Pritchard, o dras Gymreig, fel yr awgryma ei henw.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- I, Claudius (1934)
- Claudius the God (1934)
- Count Belisarius (1938)
- Sergeant Lamb of the Ninth (1940)
- Proceed, Sergeant Lamb (1941)
- Wife to Mr. Milton (1943)
- The Golden Fleece (1944)
- King Jesus (1946)
- Seven Days in New Crete (1949)
- The Islands of Unwisdom (1950)
- Homer's Daughter (1955)
Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- Over the Brazier (1923)
- The Feather Bed (1923)
- Mock Beggar Hall (1924)
- Welchmans Hose (1925)
- To Whom Else? (1931)
Eraill
[golygu | golygu cod]- Good-Bye to All That (1929)
- The Long Weekend [gyda Alan Hodge] (1941)
- The Reader Over Your Shoulder [gyda Alan Hodge] (1943)
- The White Goddess (1948)
- The Golden Ass of Apuleius (1951)
- The Greek Myths (1955)
- Majorca Observed (1965)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ rcahmw.gov.uk; teitl: Welsh Homes and Writers of the First World War; adalwyd 27 Medi 2025.
- Beirdd Saesneg o Loegr
- Beirniaid llenyddol Saesneg o Loegr
- Cyn-ddisgyblion Ysgol Charterhouse
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Sant Ioan, Rhydychen
- Genedigaethau 1895
- Hunangofianwyr Saesneg o Loegr
- Llenorion Saesneg
- Llenorion yr 20fed ganrif o Loegr
- Nofelwyr Saesneg o Loegr
- Marwolaethau 1985
- Pobl o Lundain
- Ysgolheigion y clasuron