Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol)
Neidio i: llywio, chwilio
Rhyfel Byd Cyntaf

Catrawd Gymreig yn y fyddin Brydeinig rhwng 1689 a 2006 oedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (Saesneg: Royal Welch Fusiliers, ar rai adegau yn ei hanes Royal Welsh Fusiliers). Yn 2006, daeth yn fataliwn gyntaf catrawd newydd Y Cymry Brenhinol (the Royal Welsh).[1]

Ffurfiwyd y gatrawd yn 1689 gan William III, brenin Lloegr fel y 23rd Regiment of Foot. Yn 1702, cafodd y teitl The Welch Regiment of Fusiliers ac yn 1713 ychwanegwyd Royal at yr enw.

Ymladdodd y gatrawd mewn nifer fawr o ryfeloedd, yn cynnwys Rhyfel Annibyniaeth America, Rhyfeloedd Napoleon, Rhyfel y Crimea, Rhyfel y Boer, y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'r fataliwn 1af yn ymladd ym Mrwydr Coed Mametz yn 1916, a'r ail fataliwn ym Mrwydr Passchendaele yn 1917. Bu nifer o feirdd adnabyddus yn gwsanaethu yn eu rhengoedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys Hedd Wyn, Siegfried Sassoon, Robert Graves a David Jones.

Ar 18 Awst 1900 danfonwyd y Ffiwsilwyr drwy system garffosiaeth Beijing i ryddhau gwystlon yn Llysgenhadaeth Prydain. Ychydig ynghynt roedd miloedd o gymdeithas gyfrin 'y Bocswyr' (y mudiad Yihequan) wedi goresgyn y brifddinas gan ladd 290 o dramorwyr. Llwyddodd y Ffiwsilwyr i'w rhyddhau ond bu farw 28 ohonynt.[2]

Roedd pencadlys y gatrawd yn Wrecsam, a cheir amgueddfa'r gatrawd yng Nghastell Caernarfon.

Cyfuniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyd at 2006, roedd yn un o bum catrawd nad oeddent wedi'u cyfuno gyda chatrawdau eraill, roedd felly'n un o'r catrawdau hynaf. Fe'i gyfunwyd, fodd bynnag, yn 2006 gyda Royal Regiment of Wales i greu catrawd newydd: 'y Cymry Brehninol'.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cannon, t. 13
  2. Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd; t. 109-110
  3. "Royal Welch Fusiliers". National Army Museum. http://www.nam.ac.uk/research/famous-units/royal-welch-fusiliers. Adalwyd 24 Mai 2014.