Castell Caernarfon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Caernarfon
Caernarfon castle interior.jpg
Math Castell, safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1283 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Ngwynedd Edit this on Wikidata
Sir Gwynedd, Caernarfon Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 6 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.13931°N 4.27689°W, 53.138725°N 4.278255°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Sian Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au Hywel Williams (Plaid Cymru)
Manylion
Arddull pensaernïol pensaernïaeth ganoloesol Edit this on Wikidata
Perchnogaeth Edward I Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I, Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata

Castell sydd yng nghanol tref Caernarfon, Gwynedd ac ar lannau Afon Seiont ac Afon Menai yw Castell Caernarfon, safle strategol a phwysig iawn yn ystod goresgyniad y Normaniaid, y Sacsoniaid a'r Saeson. Fe'i codwyd gan Edward I, brenin Lloegr rhwng 1283 a 1330. Mae'n gastell consentrig wedi ei gynllunio gan James o St George, a'r muriau wedi cael eu cynlluno i edrych fel muriau amddiffynnol Caergystennin. Mae Castell Caernarfon yn gampwaith ymhlith cestyll gogledd Cymru ac, fel un o'r cestyll hynny, mae ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1986.

Yn y castell hwn y ganwyd Edward II, brenin Lloegr ym 1284, cyn i'r castell gael ei gwblhau. Cyn hynny roedd yma gaer Rhufeinig yn Segontium, tu allan i'r dref bresennol, a chastell Normanaidd yn ogystal.

Cynllun pensaerniol o Gastell Caernarfon.
A – Porth y Dŵr; B – Tŵr yr Eryr; C – Tŵr y Frenhines; D – Tŵr y Ffynnon; E – Ward Isaf; F – Y Neuadd Fawr; G – Ceginau; H – Tŵr Chamberlain; I – Tŵr y Brenin; J – Ward Uchaf; K – Y Tŵr Du; L – Tŵr yr Ŷd; M – Tŵr y Gogledd Ddwyrain; N – Tŵr y tanc dŵr; O – Porth y Frenhines. Glas: y rhannau a godwyd rhwng 1283–92, coch: rhwng 1295–1323.
Castell Caernarfon o'r gogledd orllewin, 1749
Hen ffotograff o tua 1890-1900

Hanes Yr Castell[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd y Castell ei adeiladu yn yr 13 ganrif ag gorffen yn 1330. Adeiladwyd y waliau i fod yn debyg i Contantinople, dinas enwog Rufeinig. Ond yn anffodus wrth i'r castell gael ei adeiladu cafodd y Castell ei llosgi lawr yn 1994. Ymosodwyd Owain Glyn Dwr ar y Castell yn 1401, 1403 a 1404, nid oedd yn llwyddiannus. Yn 1660, yn ystod y Rhyfel Cartref, gorchmynnwyd i'r Castell cael ei ddinistrio, anwybyddwyd hyn.

Y cyfnod modern[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1911 arwisgwyd y Tywysog Edward, sef Edward VIII yno. Yn 1969 yn ogystal, arwisgwyd Charles, mab hynaf brenhines Lloegr, yn Dywysog Cymru) yn y castell.

Mae Amgueddfa Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i'w weld mewn rhan o'r castell.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffeithiau difyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y Castell ganwyd Tywysog gyntaf Saesneg Cymru, Edward yr ail. Cafodd ei goroni yn 1301. Defnyddwyd y Castell i goroni tywysog Cymru am y tro cyntaf, Tywysog Siarl yn 1969. Bu Netflix yn ffilmio'r digwyddiad yma ar gyfer y gyfres The Crown yn 2018. Twr Yr Eryr yw’r twr mwyaf yn hanes Cestyll Cymru. Mae bron i 20,000 o bobl yn ymweld â’r castell pob blwyddyn. Ambell i waith yn ystod y flwyddyn mae digwyddiadau yn cael ei gynnal o fewn y castell e.e. Marchogion yn ymladd, Saethwyr bwa, côr yn canu ac yn y blaen.

Rheolau Y Castell[golygu | golygu cod y dudalen]

Cŵn cymorth yn unig. Dim ysmygu. Nid yw Cadw yn caniatáu i ddaearwn hedfan o'r safleoedd gwarcheidwaeth neu drosodd, ac eithrio gan gontractwyr a gomisiynwyd at ddiben penodol, sy'n bodloni meini prawf CAA llym, gael yr yswiriant cywir ac sy'n gweithredu dan amodau dan reolaeth.

Costau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cost mynediad yn amrywio ar gyfer gwahanol bobl.