Y Croesgadau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Chroesgadau'r Oesoedd Canol. Am enghreifftiau eraill o'r gair Croesgad (neu Crŵsad), gweler Croesgad (gwahaniaethu) a Croesgadwr.

Anturiaethau milwrol gan Wledydd Cred (gwledydd Cristnogol gorllewin Ewrop) a drefnid yn bennaf er mwyn adfeddiannu lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslemiaid yn ystod yr Oesoedd Canol oedd y Croesgadau. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.

Hanes y Croesgadau[golygu]

Y Groesgad Gyntaf[golygu]

Prif erthygl - Y Groesgad Gyntaf

Ymladdwyd y Groesgad Gyntaf o 1095 i 1099. Fe'i lawnsiwyd dan oruchwyliaeth a nawdd y Babaeth. Arweiniodd Pedr y Meudwy fyddin yn erbyn lluoedd Kilij Arslan, swltan Nisé, ond fe'i trechwyd ganddo. Y flwyddyn ganlynol cipiodd y Croesgadwyr Nisé a threchwyd Kilij ym mrwydr Dorylé. Roedd 1098 yn flwyddyn gofiadwy i'r goresgynwyr; cipiwyd Edessa ac Antioch a chreuwyd taleithiau Croesgadwrol ynddynt a chafodd byddin Mwslemaidd dan arweinyddiaeth Karbouka o ddinas Mosul ei threchu. Yn 1099 cipiwyd Caersalem a Thripoli. Yn y Ddinas Sanctaidd ei hun coronwyd y fuddugoliaeth â chyflafan ddychrynllydd ar y trigolion, yn Iddewon, Cristnogion Uniongred a Mwslemiaid yn ddi-wahân.

Yr Ail Groesgad[golygu]

Prif erthygl - Yr Ail Groesgad

Cwymp talaith Edessa i'r Saraseniaid yn 1144 oedd yr ysbardun i'r Ail Groesgad, aflwyddianus.

Y Drydedd Groesgad[golygu]

Prif erthygl - Y Drydedd Groesgad

Cwymp dinas Caersalem i Saladin yn 1187 oedd yr ysbardun a arweiniodd at gyhoeddi'r Drydedd Groesgad yn 1189. Yr arweinwyr oedd Phylip II Awgwstws o Ffrainc, yr Ymerodr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa a Rhisiart Lewgalon o Loegr. Parhaodd hyd 1192.

Y Bedwaredd Groesgad[golygu]

Prif erthygl - Y Bedwaredd Groesgad

Yr amcan wrth lawnsio'r Bedwaredd Groesgad (1202 - 1204) oedd cipio'r Aifft, ond roedd yr amgylchiadau yn erbyn hynny ac yn y diwedd saciwyd un o ddinasoedd pwysicaf y byd Cristnogol gan y Croesgadwyr annisgybliedig, sef Caergystennin.

Y Croesgadau Olaf[golygu]

Prif erthyglau - Y Bumed Groesgad, Y Chweched Groesgad, Y Groesgad Olaf

Methiannau trychinebus fu pob un o'r tair croesgad olaf yn ystod y 13eg ganrif. Erbyn 1291 roedd caer hollbwysig Acre ym Mhalesteina, amddiffynfa olaf y Croesgadwyr yn y Lefant, wedi syrthio ac roedd y Croesgadau ar ben.

Arwyddocád y Croesgadau[golygu]

Ar yr ochr bositif, agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y Groegiaid. Daeth llawysgrifau o weithiau gan Aristotlys ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welid yn ystod y Dadeni. Cyfoethogwyd Ewrop gan mathemateg y Mwslemiaid yn ogystal, yn arbennig ym maes algebra (oedd yn ddiarth i Ewropeiaid cyn hynny).

Llên a chelfyddyd[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu]

  • Amin Maalouf, Les croisades vues par les Arabes (Paris, 1985; argraffiad newydd, Editions J'ai Lu, Paris, 2003). Golwg ar y Croesgadau o safbwynt yr Arabiaid).
Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.