Ffiwdaliaeth

Oddi ar Wicipedia
Ffiwdaliaeth
Enghraifft o'r canlynolsystem wleidyddol Edit this on Wikidata
Matheiddo tiroedd Edit this on Wikidata
Olynwyd ganAncien Régime, Neo-ffiwdaliaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysexamples of feudalism, bastard feudalism, expansion of feudalism Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

System wleidyddol, economaidd a chymdeithasol mewn bod drwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol oedd ffiwdaliaeth neu'r drefn ffiwdal.

Amrywiodd y drefn o wlad i wlad ac o oes i oes, ond yn gyffredinol y teyrn oedd y pen, ac yn rhoi tir i'r arglwyddi. Bu'r arglwydd yn addo ffyddlondeb i'r teyrn, ac yn rhoi tir i farchogion ei ardal. Rhan y marchog oedd i amddiffyn ac ymladd dros ei farwn, ac i ddarparu gwaith i'r bileiniaid lleol. Swydd y bilain oedd i weithio i'r marchog.

Cymru a Lloegr[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y drefn ffiwdal yn Nheyrnas Lloegr dan Wiliam I yn yr 11g. Roedd yn fodd iddo wobrwyo'r arglwyddi Normanaidd a'i gynorthwyodd i ennill Brwydr Hastings. Rhoddodd darnau o dir i farwniaid ar hyd a lled Lloegr, a gofynnodd y barwniaid i'r marchogion i'w helpu i reoli'r ardaloedd. Roedd y werin bobl yn fodlon gyda'r drefn newydd ar y cyfan oherwydd roeddent yn derbyn tir a gwaith am y tro cyntaf. Doedd yr hen farchogion Seisnig ddim yn fodlon gan iddynt golli tir a statws. Gorchmynnodd Wiliam i bob barwn yn y wlad addo i fod yn ffyddlon i'r brenin uwchben pawb arall, i geisio atal y barwniaid troi yn ei erbyn. Llwyddodd Wiliam i atgyfnerthu ei rym ac i reoli'r wlad yn effeithiol gyda'r drefn hon.