Bilain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Deiliad caeth i'r tir neu werinwr taeog yn y drefn ffiwdal yng Nghymru a Lloegr yr Oesoedd Canol oedd bilain. Fel rheol roedd y bilain yn ddeiliad i farchog neu arglwydd lleol ac yn rhwym i'w waith. Bu'r bilain yn derbyn tir yng nghaeau'r pentref ac yn amaethu ar y fferm neu'n llafurio yn y maenor. Benthycwyd yr enw o'r Saesneg Canol vilein neu'r Hen Ffrangeg vilain,[1] a ddaw yn y bôn o'r gair Lladin am bentrefwr, villanus.[2]

Math o gaethwasanaeth oedd bileiniaeth ar y dechrau, yn debyg i'r gebur (ffermwr) a'r geneat (gwas) yn y gyfraith Eingl-Sacsonaidd.[2] Er nad oedd bileiniaid yn ddynion rhydd, nid rheng isaf y gymdeithas oeddynt: roedd eu statws yn uwch na'r bordariaid a'r cotÿwyr oedd yn berchen ar lai o dir, a'r caethweision oedd yn nodwedd o Loegr y Sacsoniaid.[3] Y villanus oedd y dosbarth cymdeithasol mwyaf niferus yn Llyfr Dydd y Farn. Sefydlogodd haenau cymdeithas wrth i'r Normaniaid sefydlu'r drefn ffiwdal yn Lloegr, ac roedd y werin bobl yn fodlon gyda'i safle ar y cyfan oherwydd roeddent yn derbyn tir a gwaith am y tro cyntaf. Erbyn y 13g datblygodd sefyllfa'r bilain yn ffurf ar ddeiliadaeth gaeth: gwerinwr oedd yn rhwym i'w arglwydd yn gyfreithiol ac er anghenion economaidd.[2]

Nid oedd y drefn ffiwdal a'i goblygiadau yn unffurf ar draws Lloegr. Ychydig o fileiniaid yn unig oedd yng Nghaint, yr hen Ddaenfro, y mwyafrif o'r gogledd ac mewn rhannau o'r gorllewin. Roedd bileiniaid ystadau'r Goron yn debygol o feddu ar freintiau ychwanegol. Wrth ddatblygu'r system gyfiawnder frenhinol, ni chynigid yr iawnderau newydd i'r bilain: nid oedd ganddo'r hawl i eistedd ar fainc y rheithgor nac ychwaith i gael defnyddio llysoedd y brenin. Er ei statws isel, roedd modd i'r bilain fwrw'r rhwymau ymaith: drwy brynu ei ryddid oddi ar ei arglwydd; drwy ddianc i dref am flwyddyn a diwrnod; neu drwy ymuno â'r urddau eglwysig, gyda chaniatâd ei arglwydd.[3] Cafwyd un ddatblygiad cyfreithiol o fudd iddo: amddiffynodd y llysoedd hawl y bilain parthed y ddefod faenoraidd, felly ni allai'r arglwydd ei ddifeddiannu oni bai bod hynny yn gytûn â'r hen arferion lleol. Ynghynt roedd yn bosib i'r arglwydd bwrw'r bilain allan ar unrhyw adeg a heb reswm.[4]

Daeth diwedd bileiniaeth yn y 15g o ganlyniad i newidiadau economaidd a chymdeithasol, yn enwedig yn sgil y Pla Du a thwf y trefi. Trodd y mwyafrif o fileiniaid yn hawlfeddianwyr (copiddeiliaid): dynion rhydd ac yn talu rhent.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  bilain. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 J. P. Kenyon (gol.) The Wordsworth Dictionary of British History (Wordsworth, 1996), t. 351.
  3. 3.0 3.1 J. A. Cannon. "villein" yn The Oxford Companion to British History (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 5 Rhagfyr 2016.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) feudal land tenure. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2016.