Y Ddaenfro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolendid tiriogaethol Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
'Lloegr' yn 878

Rhanbarth yng ngogledd a dwyrain Lloegr oedd dan ddylanwad deddf y Daniaid oedd y Ddaenfro.[1] Y gyfraith Eingl-Sacsonaidd a'r gyfraith Mersiaidd oedd y rhanbarthau eraill yn Lloegr y cyfnod. Roedd tiriogaeth y Ddaenfro'n cyfateb mwy neu lai i 14 o swyddi: Efrog, Nottingham, Derby, Lincoln, Essex, Caergrawnt, Suffolk, Norfolk, Northampton, Huntingdon, Bedford, Hertford, Middlesex a Buckingham.[2][3][4]

Tarddodd y Ddaenfro o oresgyniadau'r Llychlynwyr yn y 9g. Ffurfiodd y system gyfreithiol yn sgil cytundebau rhwng Alffred Fawr, brenin Wessex, a'r cateyrn Danaidd Guthrum wedi Brwydr Edington yn 878. Diffinwyd ffiniau'r teyrnasoedd yn 886 i gadw'r heddwch rhwng y Saeson a'r Llychlynwyr. Sefydlodd y brenhinoedd Llychlynaidd lys Norseg yn Efrog, ond roedd y werin Seisnig a Danaidd yn siarad tafodieithoedd Eingl-Norseg.[5] Llwyddodd brenhinoedd Wessex i ennill penarglwyddiaeth dros diriogaethau'r Ddaenfro yn y 10g, ond goroesodd deddfau a thraddodiadau Danaidd hyd y goresgyniad Normanaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, [Danelaw].
  2. K. Holman, The Northern Conquest: Vikings in Britain and Ireland, p. 157
  3. S. Thomason, T. Kaufman, Language Contact, Creolisation and Genetic Linguistics, p. 362
  4. The Blackwell Encyclopedia of Anglo-Saxon England, ed. Michael Lapidge (2008), p. 136
  5. "Danelaw Heritage". The Viking Network. Cyrchwyd 25 Medi 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)