Rhentu
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Rhent)
- Gweler hefyd: Prydles
Cytundeb yw rhentu, lle bydd rhywun yn talu rhywun arall er mwyn defnyddio eu heiddo. Er enghraifft, bydd tenant yn talu swm o rent i'r landlord, a bydd y landlord yn gyfrifol am yr holl gostau sydd fel arfer yn gysylltiedig gyda bod yn berchen ar yr eiddo. Defnyddir y system hyd yn oed mewn achos eiddo megis peiriannau golchi, bagiau llaw a gemwaith.[1]
Rhesymau dros rhentu
[golygu | golygu cod]Mae amryw o resymau dros rhentu yn hytrach na phrynu. Er enghraifft:
- Mewn amryw o wledydd (gan gynnwys India, Sbaen, Awstralia, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau) nid yw rhent a delir ar gyfer masnach neu fusnes yn cael ei drethu, ond mae rhent a delir ar annedd yn cael ei drethu yn y rhan fwyaf o wledydd.
- Diffyg arian, megis mewn achos prynu tŷ, pan na all rhywun gael morgais.
- Lleihau risg, gan osgoi dibrisiad a chostau gwerthiant, yn enwedig pan fydd ond angen yr eiddo am gyfnod byr.
- Er mwyn defnyddio rhywbeth sydd ond ei angen am gyfnod byr, megis offer, lori, neu sgip.
- Pan fydd eich eiddo eich hun ddim wrth law, megis rhentu car neu feic pan ar wyliau.
- Dewis rhatach, megis mae rhentu ffilm yn rhatach na'i phrynu, ond gallwch ddim ei wylio eto yn y dyfodol heb ei rhentu unwaith eto.
- Nid yw'r un sy'n rhentu eisiau cymryd y baich am gynnal a chadw neu thrwsio'r eiddo, ac felly yn rhentu a gadael y cyfrifoldeb hwn i'r perchennog.
- Nid oes angen i'r rhentwr boeni am hirhoedledd yr eiddo, ac yn osgoi'r risg y gall orfod brynu eto yn gynt na'r disgwyl.
- Mae rhentu yn osgoi ychwanegu baich dyled i gyfrifon busnes sydd efallai eisiau cadw arian yn rhydd, neu eisiau cadw'r posibilrwydd o newid ffurf y busnes o weithio.
- Gall rhentu fod yn well ar gyfer yn amgylchedd gan gall mwy nag un person ei ddefnyddio, felly bydd angen cynhyrchu llai.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ If you want it, rent it ... from a 'must have' handbag to an Aston Martin. The Observer (4 Ionawr 2009).
- ↑ Why buy it when you can rent it?. The Observer (27 Mehefin 2004).