Saesneg Canol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dalen o The Canterbury Tales gan Geoffrey Chaucer.

Ffurf hanesyddol ar yr iaith Saesneg yw Saesneg Canol a siaredid ar ôl y goncwest Normanaidd yn yr 11g tan ddiwedd y 15g. Aeth Saesneg drwy sawl newid a datblygiad yn y cyfnod wedi'r Hen Saesneg. Nid yw ysgolheigion yn hollol gytûn ynglŷn â dyddiadau'r iaith, ond pennir y tri a hanner can mlynedd 1150–1500 fel y cyfnod pan siaredid Saesneg Canol yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen.[1] Yn fras, dilynodd y cam hwn yn natblygiad yr iaith Saesneg yr Oesoedd Canol Uchel a Diweddar. Fe'i siaredid ar draws Lloegr, yn ne-ddwyrain yr Alban, mewn ambell man ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn y Pâl yn Iwerddon.

Gwelodd Saesneg Canol newidiadau sylweddol i'w gramadeg, ynganiad, ac orgraff. Roedd arferion ysgrifennu yn ystod y cyfnod hwn yn amrywio'n eang. Dangosir amrywiaeth helaeth mewn enghreifftiau ysgrifenedig Saesneg Canol yn ôl ardal eu tarddiad. Daeth Hen Saesneg, iaith safonol mewn cymhariaeth, yn fratiog a'i rhannu'n sawl ffurf leol, ac awduron yn ei datblygu yn y fan a'r lle yn fynyachaf.[1] Erbyn diwedd y cyfnod (tua 1470), gyda chymorth y wasg argraffu a ddyfeisiwyd gan Johannes Gutenberg yn 1439, derbyniwyd ffurf safonol yn seiliedig ar dafodiaith Lludain o'r enw Safon y Siawnsri. Roedd hyn i raddau helaeth yn sylfaen ar gyfer sillafu Saesneg Modern, er bod ynganiad wedi newid yn sylweddol ers hynny. Olynwyd Saesneg Canol yn Lloegr gan gyfnod y Saesneg Modern Cynnar, a barodd hyd ganol yr 17g. Datblygodd yr iaith Sgoteg ar yr un pryd fel datblygiad o dafodiaith Northymbria, ffurf ar Saesneg oedd yn gyffredin yng ngogledd Lloegr ac yn ne-ddwyrain yr Alban.

Yn ystod cyfnod Saesneg Canol, symleiddiwyd nifer o nodweddion gramadeg yr Hen Saesneg, neu ddiflanasant yn gyfan gwbl. Cafodd ffurfdroadau'r enw, yr ansoddair, a'r ferf eu symleiddio o ganlyniad i ostyngiad (ac yn y pen draw diflaniad) y mwyafrif o wahaniaethau o ran y cyflwr gramadegol. Benthycwyd llawer o eiriau Normaneg, yn enwedig ym meysydd gwleidyddiaeth, y gyfraith, y celfyddydau, a chrefydd. Cedwai'r geirdarddiad Germanaidd gan y rhan fwyaf o eirfa'r Saesneg, a dylanwadau'r Hen Norseg yn amlygach. Cafwyd newidiadau sylweddol yn nhermau ynganiad, gan gynnwys llafariaid a deuseiniaid hirion, ac yng nghyfnod diweddar Saesneg Canol yr hyn a elwir Sifft Fawr y Llafariaid.

Dim ond ychydig o lenyddiaeth Saesneg Canol sy'n goroesi, o ganlyniad i oruchafiaeth y Normaniaid a statws Hen Ffrangeg, neu Eingl-Normaneg, fel iaith o fri. Yn ystod y 14g, daeth arddull llenyddol newydd i'r amlwg gyda gwaith John Wycliffe a Geoffrey Chaucer, yr hwn sy'n un o feirdd gwychaf barddoniaeth Saesneg Lloegr a'i gampwaith The Canterbury Tales yn brif waith y cyfnod ac yn un o'r gweithiau pwysicaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Middle English–an overview - Oxford English Dictionary" (yn en-US). 2012-08-16. http://public.oed.com/aspects-of-english/english-in-time/middle-english-an-overview/. Adalwyd 2016-01-04.
  2. Carlson, David. (2004). "The Chronology of Lydgate's Chaucer References". The Chaucer Review 38 (3): 246–254. doi:10.1353/cr.2004.0003.
  3. The name "tales of Canterbury" appears within the surviving texts of Chaucer's work.[2]