Barddoniaeth Saesneg Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Barddoniaeth sydd yn tarddu o Loegr ac wedi ei hysgrifennu yn yr iaith Saesneg neu yn ei ffurfiau hanesyddol yw barddoniaeth Saesneg Lloegr.

Barddoniaeth yn yr Eingl-Sacsoneg a'r Hen Saesneg (tua 428–1100)[golygu | golygu cod y dudalen]

Tudalen flaen Beowulf, arwrgerdd genedlaethol y Saeson.

Nid oes ffynonellau gwreiddiol o farddoniaeth yr Eingl-Sacsoniaid, o oresgyniadau'r 5g hyd at eu cristioneiddio yn y 7g, yn goroesi. Dyddia'r cerddi cynharaf yn yr Hen Saesneg o ail hanner y 7g, a dyma'r mawlgan Widstith ac Emyn Cædmon. Penillion cyflythrennol yw'r rhain, a gwaith y mynach Cædmon o Northymbria yw'r enghraifft gyntaf o farddoniaeth dduwiolfrydig Gristnogol yn llenyddiaeth y Saeson. Mae'n debyg taw The Dream of the Rood yw'r gerdd ddefosiynol wychaf yn nhraddodiad yr Eingl-Sacsoniaid.

Dethlir buddugoliaethau a dewrder brenhinoedd a rhyfelwyr mewn arwrgerddi'r Eingl-Sacsoniaid. Yr arwrgerdd hiraf av enwocaf o'r cyfnod yw Beowulf, sy'n traddodi campau'r prif gymeriad a'i frwydr yn erbyn yr anghenfil Grendel. Cyfuniad o straeon paganaidd Gogledd Ewrop a themâu Cristnogol yw Beowulf, sy'n dyddio o'r 8g.

Barddoniaeth Saesneg Canol (1100–1500)[golygu | golygu cod y dudalen]

Datblygodd yr iaith Saesneg Canol o'r 12g, a cheir telynegion byrion o'r cyfnod hyn hyd at y 14g, nifer ohonynt yn ddi-enw. Cenir am natur, y gwanwyn, serch, a duwioldeb y Cristion. Roedd baledi byrion a phenillion straeon yn boblogaidd o'r 13g hyd at yr 17g.

Blodeuai'r rhamant Saesneg yn y 14g, a nodweddir gan straeon y marchog crwydr, canu serch llys, a themâu sifalri. Un o'r rhamantau enwocaf o'r cyfnod, sydd yn tynnu ar chwedlau Brythonaidd Cylch Arthur, yw Sir Gawayn and þe Grene Knyȝt.

Galargan yn debyg i farwnad y Cymry yw'r elegi, a ysgrifennir er cof am un fu farw ac hefyd i fyfyru ar destun marwolaeth neu einioes. Enghraifft o'r fath gerdd yw Perle (tua 1360) a ysgrifennwyd o bosib i goffáu merch y bardd, o bosib yr un bardd a gyfansoddodd Sir Gawayn and þe Grene Knyȝt.

Yn yr oes hon hefyd fe flodeuai'r aralleg, ffurf lenyddol ddamhegol sydd yn trosi rhinweddau a chysyniadau tebyg yn gymeriadau a gwrthrychau eraill yn y stori. Traethiad alegorïaidd o hanes Cristnogaeth yw Piers Plowman (tua 1362), a briodolir i William Langland.

Bardd rhagoraf y cyfnod, ac un o lenorion pwysicaf a gwychaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg, yw Geoffrey Chaucer. Yn ei gampwaith The Canterbury Tales, fe geir cylch o straeon difyr a adroddir gan griw o bererinion ar eu taith i Gaergaint. Darluniad dwfn a lliwgar ydyw o fywyd, iaith, digrifwch, a pherthnasau cymdeithasol yn Lloegr yr Oesoedd Canol. Ymhlith gweithiau eraill Chaucer mae'r stori serch Troilus and Criseyde a'r ddychangerdd ddamhegol Parlement of Foules.

Oes y Tuduriaid (1485–1603)[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn yr 16g, gwelwyd dylanwadau'r Dadeni Dysg a dyneiddiaeth y celfyddydau ar lenyddiaeth Saesneg Lloegr. Poblogaidd iawn oedd mesur y soned, a ddyfeisiwyd gan yr Eidalwyr. Serch oedd thema'r mwyafrif helaeth o sonedau'r Saeson, ac yn aml yn mynegi siom torri calon neu'r cariad nas dychwelir. Y Saeson cyntaf i soneddu yn eu mamiaith oedd Thomas Wyatt ac Henry Howard, Iarll Surrey, yr un a ddyfeisiodd y patrwm odli Saesneg ar y soned: tair adran o bedair llinell yr un, a chwpled i'w chloi. Howard hefyd oedd y cyntaf i gyfansoddi cerddi moel yn y Saesneg, hynny yw mesur cyson megis y pumban iambig ond yn ddiodl. Efelychai'r ffurf hon gan Philip Sidney yn ei gyfres o sonedau Astrophel and Stella.

Paentiad olew o Edmund Spenser.

Bardd gwychaf Oes Elisabeth oedd Edmund Spenser, a ysgrifennodd gwaith epig, damhegol o'r enw The Faerie Queene a rennir yn chwe llyfr sy'n ymwneud â'r rhinweddau llys. Dyrchefir rhamant yr oes yn y gerdd hon wrth i'r bardd canu clod y Frenhines Elisabeth a mynegi eglwyseg y Sefydlogiad Protestannaidd.

Bu dramodwyr rhagorol Oes Elisabeth, William Shakespeare a Christopher Marlowe, hefyd yn cyfansoddi barddoniaeth delynegol a thraethiadol. Tynna Shakespeare ar y bardd Lladin Ofydd yn ei gerddi mytholegol Venus and Adonis a The Rape of Lucrece. Yn y 1590au fe gyfansoddodd gyfres o 154 o sonedau, a ystyrir ymhlith y goreuon o lenyddiaeth Oes Elisabeth. Adrodda Marlowe hefyd stori glasurol yn ei gerdd Hero and Leander.

Y Metaffisegwyr a'r Cafaliriaid (1603–60)[golygu | golygu cod y dudalen]

Portread o John Donne.

Fel rheol, rhennir barddoniaeth Saesneg yn hanner cyntaf yr 17g yn ddau draddodiad: y Beirdd Metaffisegol a'r Beirdd Cafalîr. Naws ddeallusol ac ysbrydol sydd i farddoniaeth John Donne, y cyntaf o'r Metaffisegwyr. Delweddaeth anarferol a llinellau arabus sydd yn lliwio'i gerddi, a dyrchefir cynnwys yn hytrach na ffurf. Yn ogystal â'i gerddi serch, fe gyfansoddodd barddoniaeth grefyddol. Ysgrifennwyd cerddi duwiol hefyd gan Fetaffisegwr arall, yr Eingl-Gymro George Herbert, a chyda delweddaeth Gatholig gan Richard Crashaw. Ymhlith beirdd eraill y traddodiad Metaffisegol mae Thomas Traherne ac Abraham Cowley.

Tarddai'r traddodiad Cafalîr o waith Ben Jonson, dramodydd amlycaf Oes Iago wedi marwolaeth Shakespeare, a efelychodd farddoniaeth glasurol. Ei gerddi mwyaf dylanwadol yw ei delynegion a ysgrifennir i ferched. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, mabwysiadwyd llinellau cryno ar batrwm Jonson gan Robert Herrick a'i gyfeillion a alwodd eu hunain yn "Feibion Ben". Brenhinwyr, neu Gafaliriaid, oedd nifer o'r beirdd hyn a gefnogai'r Brenin Siarl I yn y rhyfel. Delfrydau megis serch llys ac aristocratiaeth sydd yn nodweddu barddoniaeth y criw hwn. Neges gyffredin yw eu telynegion bachog, ffraeth sy'n annerch merched yw carpe diem, er enghraifft "To His Coy Mistress" gan Andrew Marvell, "Go, lovely rose" gan Edmund Waller, "Why so pale and wan, fond lover?" gan John Suckling, a "To Althea, from Prison" gan Richard Lovelace. Ysgrifennodd Marvell awdlau ac ymgomion yn ogystal â thelynegion, ac yn yr arddull Fetaffisegol hefyd.

Yr Adferiad a'r cyfnod newydd-glasurol (1660–1780au)[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi i Siarl II gael ei goroni yn 1660, gan adfer y frenhiniaeth yn Lloegr a dod â'r Werinlywodraeth i ben, llaciwyd ar y deddfau piwritanaidd yn erbyn mynegiant gwleidyddol a chrefyddol, ac roedd llenorion yn hawlio rhyddid creadigol unwaith eto ar ddychan a'r ddrama. Blodeuai oes o ffraethineb a gogan brathog yn llenyddiaeth Saesneg a barodd am ganrif gyfan. Canolbwyntiai beirdd y cyfnod hwn ar ymddygiad dynol a gwleidyddiaeth mewn arddull syml a chymedrol sy'n adlewyrchu'r heddwch a fu wedi'r rhyfeloedd cartref. Câi'r cyfnod ei gymharu â theyrnasiad Awgwstws Cesar a welai nifer o'r beirdd Rhufeinig gwychaf, ac am y rheswm hwnnw fe'i gelwir yn oes newydd-glasurol barddoniaeth Saesneg Lloegr. Datblygwyd arni'n gryf gan fudiad rhesymoliaeth a'i phwyslais ar drefn a chynildeb y dychymyg a gosod y ddynolryw a chymdeithas y bwnc testun yn hytrach na chrefydd a'r pethau duwiol.

Tudalen flaen yr argraffiad cyntaf o Paradise Lost gan Milton.

Bardd pwysicaf yr oes newydd-glasurol, ac un o lenorion uchaf eu bri yn holl lên Loegr, yw John Milton. Ystyrir ei gampwaith, Paradise Lost (Coll Gwynfa, 1667) yn arwrgerdd oreuaf yr iaith Saesneg, ac ynddi mae'r bardd yn cyfuno disgrifiadau byw a thraethiad hynod o ddramatig gydag arddull soniarus megis Spenser. Ysgrifennodd Milton hefyd ail arwrgerdd o'r enw Adferiad Gwynfa (1671), y ddrama farddonol Samson Agonistes (1671), a nifer o sonedau da.

Er yn y theatr a'r nofel mae enghreifftiau amlycaf o lên ddigrif a dychanol yn ail hanner yr 17g – yn bennaf comedïau'r Adferiad – roedd hiwmor a gogan yn elfen bwysig o farddoniaeth y cyfnod hefyd. Nodai cychwyn yr oes ddychanol gan y gerdd "Hudibras", a gyhoeddwyd gan Samuel Butler mewn tair rhan (1663–78), sy'n gwatwar anghydffurfiaeth grefyddol a gwleidyddol Cromwell a'r Piwritaniaid. Mae'r gwaith hwnnw hefyd yn barodi o ddelfrydiaeth ramantaidd yr oesoedd cynt, yn enwedig "The Faerie Queene".

Bardd dychanol gwychaf y cyfnod, a'r cyntaf o'r newydd-glasurwyr, yw John Dryden. Bardd achlysurol a dramodydd o fri oedd Dryden, a gafodd ei benodi'n Bardd Llawryfog cyntaf Lloegr. Cychwynnodd ar gyfnod dychanol ei yrfa pan gyfansoddai ffugarwrgerdd o'r enw "Mac Flecknoe" i wneud hwyl ar ben dramodydd arall. Ystyrir "Absalom and Achitophel" (1681) yn ei gampwaith, cerdd arabus o gwpledi arwrol sy'n adrodd hanes y Cynllwyn Pabaidd yn erbyn Siarl II. Fe gyfansoddodd hefyd sawl awdl, gan gynnwys "To Mrs Anne Killegrew" ac "Alexander's Feast".

Yn ogystal â'i ryddiaith enwog, ysgrifennodd yr Eingl-Wyddel Jonathan Swift nifer o ogangerddi. Ystyrir un o gyfeillion Swift, Alexander Pope, yn fardd dychanol goreuaf y cyfnod newydd-glasurol, os nad yn holl hanes barddoniaeth Saesneg Lloegr. Fe efelychai cwpledi arwrol Dryden yn ogystal â ffurfiau dychanol a didactig y bardd Rhufeinig Horas. Y dosbarth uchaf oedd yn gyff gwawd ei ffugarwrgerdd "The Rape of the Lock" (1712–14), a fe wnaeth hwyl ar ben ei gyd-feirdd yn "The Dunciad" (1728).

Yn ail hanner yr 18g, trodd nifer o lenorion at themâu gwledig ac eidylaidd, mewn adwaith yn erbyn Deddfau Cau'r Tiroedd Comin a'r Chwyldro Diwydiannol, gan greu'r hyn a elwir yn farddoniaeth natur. Ymhlith yr enwocaf o'r traddodiad hwn mae "Ode to an Evening" (1746) gan William Collins, "Elegy Written in a Country Churchyard" (1751) gan Thomas Gray, "The Village" (1783) gan George Crabbe, a "The Task" (1785) gan William Cowper. Y beirdd natur oedd y rhai i hebrwng cyfnod cynharaf Rhamantiaeth i lên Lloegr.

Rhamantiaeth (1790au–1830au)[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod yr oes Ramantaidd, canolbwyntiai beirdd Lloegr yn fwyfwy ar natur, meddwl ac emosiwn yr unigolyn, a diwylliannau cyntefig ac estron yn hytrach na'r gymdeithas gyfarwydd ac effeithiau cynnar moderneiddio. Gogwydd at yr adain chwith oedd gan Ramantiaeth, a chofleidiodd cenedlaetholdeb a chynhyrfiad y gwrthryfel a'r chwyldro. Tynnai'r beirdd Rhamantaidd ar egwydorion a gwireddau sylfaenol, megis serch, harddwch, ac iawnder, y tu allan i ffiniau bywyd pob dydd.

Y gerdd "The Blossom" o'r gyfrol Songs of Innocence, a ddarluniwyd gan y bardd William Blake.

Gelwir beirdd cynharaf y mudiad yn gyn-Ramantwyr, a'r amlycaf ohonynt oedd William Blake. Mynegir pryderon am ormes economaidd yn ei gerddi sy'n defnyddio iaith syml a symbolaeth gryf. Fe nodir am ei farddoniaeth delynegol, yn bennaf Songs of Innocence (1789) a Songs of Experience (1794), yn ogystal â'i gerddi traethiadol hirion sydd yn nodweddiadol o'i broffwydoliaeth.

Dechreuodd y cyfnod Rhamantaidd go iawn ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn 1798 pan gyhoeddwyd y casgliad Lyrical Ballads gan William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge. Y ddau fardd yma oedd y blaenaf o'r genhedlaeth gyntaf o'r Rhamantwyr. Yn ei raglith i'r ail argraffiad o Lyrical Ballads (1800), sydd yn gyffelyb i faniffesto ar gyfer y mudiad, gosodai Wordsworth ei farn y dylai barddoniaeth symud oddi ar ei gorffennol newydd-glasurol tuag at ddyfodol sy'n canolbwyntio ar fywyd cyffredin, ac yn mynegi teimladau yn rymus drwy gyfrwng iaith y werin. Cyfansoddodd Wordsworth delynegion byrion, awdlau myfyriol er enghraifft "Tintern Abbey" ac "Intimations of Immortality", a cherddi hirion megis ei waith hunangofiannol "The Prelude" (cyflawnwyd yn 1805, cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth). Ysgrifennodd Coleridge hefyd farddoniaeth o natur fyfyriol, ond fe nodir yn bennaf am ei gerddi traethiadol ac iddynt naws oruwchnaturiol, yn enwedig "The Rime of the Ancient Mariner".

Portread Dwyreinaidd o'r Arglwydd Byron.

Mewn byr o amser ymddangosodd yr ail genhedlaeth o'r beirdd Rhamantaidd, a'r tri enwocaf oedd yr Arglwydd Byron, Percy Shelley, a John Keats. Roedd Byron yn fardd hynod o boblogaidd yn ei oes ei hun, ac yn adnabyddus yn ogystal am ei hoffter o ferched (a bechgyn) ac am ei ran ym mrwydr y Groegiaid am annibyniaeth. Fe nodir am ei gerddi traethiadol, dychanol megis "Childe Harold's Pilgrimage" (1812–18) a "Don Juan" (1819–24) ac am greu'r "arwr Byronaidd", cymeriad cythryblus, iselfoes, a dwfn, cyfuniad sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu personoliaeth Byron ei hunan. Tynnai gwaith Shelley ar athroniaeth a delfrydau meddylgar, yn enwedig ynglŷn â grym serch a'i allu i drawsnewid. Fe gyfansoddodd delynegion a cherddi lled-wleidyddol megis "Ode to the West Wind", ac yn ei orchestwaith, y ddrama fydryddol Prometheus Unbound (1820), mynegir ei gred i'r ddynolryw allu gorchfygu'r drwg sydd yn cyfyngu arnom. Ymdrechai barddoniaeth Keats i gyfleu profiadau synhwyrus ac emosiynol, ac ystyrir ei gerddi ymhlith gweithiau harddaf a thristaf llên Lloegr. Yn "Ode on a Grecian Urn", ceir llinell sy'n nodweddiadol o'r meddylfryd Rhamantaidd: "Beauty is truth, truth beauty". Ymhlith telynegwyr eraill yr oes oedd Robert Southey, Walter Savage Landor, a Leigh Hunt.

Oes Fictoria (1837–1901)[golygu | golygu cod y dudalen]

Alfred, yr Arglwydd Tennyson.

Yn ystod Oes Fictoria, wynebai crefydd yn Lloegr amheuaeth ac ansicrwydd oherwydd y darganfyddiadau gwyddonol a berodd i Gristnogion gwestiynau eu ffydd. Cafwyd trawsnewidiadau cymdeithasol enfawr o ganlyniad i ddiwydiannaeth, cynnydd technolegol, trefoli, a thwf yr Ymerodraeth Brydeinig, ac adlewyrchir yr amryw ymatebion i'r newidiadau hyn ym marddoniaeth y cyfnod. Mynegir pryder am fateroliaeth a "Chynnydd" yng ngwaith cynnar Alfred, yr Arglwydd Tennyson, ac yn ei alargan "In Memoriam A. H. H." (1850) fe gofleidiai ffydd mewn ymateb i'w iselder o ganlyniad i farwolaeth ei gyfaill annwyl. Canfuwyd Tennyson hefyd cysur ac addewid yn hanes traddodiadol Lloegr, sydd yn bwnc ei arwrgerdd "Idylls of the King" (1859–62).

Themâu hollbresennol ym marddoniaeth Robert Browning a Matthew Arnold hefyd oedd ffydd ac amheuaeth. Er i ambell feirniad ddehongli sicrwydd crefyddol yn treiddio gwaith Browning, fe nodir hefyd gan ddyfnder seicolegol ac ymwybyddiaeth o lygredigaeth ddynol. Mewn cyferbyniad â Browning, Arnold ydy'r bardd sy'n cynrychioli gorau amheuaeth ac ymddieithriad Oes Fictoria, yn enwedig yn ei gerdd hiraethus "Dover Beach".

Er i Tennyson a beirdd eraill ysgrifennu yn arddull lefn, soniarus y traddodiad Seisnig, bu to newydd o lenorion yn arbrofi gyda dulliau a mesurau newydd. Defnyddir iaith lafar a rhythmau anrheolaidd gan Browning, ac mae'r rhain yn amlwg yn ei ymsonau dramatig megis "My Last Duchess". Roedd ei wraig, Elizabeth Barrett Browning, yn cyfansoddi sonedau serch, cyfrwng a feistrolwyd hefyd gan George Meredith. Roedd cyfieithiad Edward FitzGerald o'r Rubaiyat (1857–59), cerddi Perseg o'r 12g gan Omar Khayyam, yn hynod o boblogaidd. Ym marddoniaeth Arthur Hugh Clough, mynegir sgeptigiaeth grefyddol yn debyg i'w gyfoeswr Matthew Arnold, a hynny mewn modd eironig braidd.

Yng nghanol y 19g sefydlwyd y Cyn-Raffaëliaid, mudiad o arlunwyr a llenorion a efelychasant arddulliau cyntefig. Arweinydd y beirdd Cyn-Raffaëlaidd oedd Dante Gabriel Rossetti, a ddefnyddiai iaith liwgar a mesur llyfn. Nodai telynegion ei chwaer Christina Rossetti gan deimladrwydd crefyddol iawn. Roedd Algernon Charles Swinburne yn Gyn-Raffaëliad yn gynnar yn ei yrfa, ac yn ddiweddarach fe arbrofai â mesur a sain ei farddoniaeth.

Rudyard Kipling

Yng nghyfnod diweddar Oes Fictoria datblygodd sawl tuedd annibynnol ym marddoniaeth Saesneg Lloegr. Yn niwedd ei yrfa, trodd y nofelydd Thomas Hardy at gyfansoddi telynegion gyda'r un weledigaeth drist a thrugarog sy'n lliwio'i ryddiaith. Mynegir pesimistiaeth Ramantaidd, hiraethus mewn arddyll syml a chynnil gan A. E. Housman yn ei gyfrol A Shropshire Lad (1896). Dan ddylanwad llenorion Ffrainc, daeth y "dirywiaethwyr" i fri yn Lloegr, a'r blaenaf ohonynt oedd Ernest Dowson a'r Gwyddel Oscar Wilde a drigai yn Llundain. Nod y llên ddirywiaethol oedd i ddyrchafu celf uwchben natur, ac i arddel "celfyddyd er mwyn celfyddyd" ar draul confesiynau Oes Fictoria. Barddoniaeth soniarus, swyn-ganiadol a gyfansoddai Dowson, sy'n ymdrin â cholled a thorcalon a diflastod ar fywyd. Gosodai Wilde gwaith y Cyn-Raffaëliaid yn fodel i'w gerddi, yn eu plith "De Profundis" a "The Ballad of Reading Gaol". Bardd unigryw oedd yr Eingl-Indiad Rudyard Kipling, yr unigolyn ieuangaf i ennill Gwobr Lenyddol Nobel a hynny yn 1907. Sonir ei gerddi am brofiadau'r milwr yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn aml, ac mae "If—" a gyhoeddwyd yn y gyfrol Barrack Room Ballads and Other Verses (1892) yn hynod o boblogaidd hyd heddiw.

Un o feirdd gwychaf a mwyaf fylanwadol Oes Fictoria oedd yr offeiriad o Iesuwr Gerard Manley Hopkins, er nad yw'n cael ei ystyried yn fardd Fictoraidd weithiau am y rheswm ni chyhoeddwyd ei waith nes 1918, 19 mlynedd wedi ei farwolaeth. Bardd hynod o wreiddiol oedd Hopkins, ac un o lenorion crefyddol gwychaf yn holl hanes Lloegr. Fe ddatblygai mesur afreolaidd, sprung rhythm, sy'n derfnyddio corfannau o amryw sillau i adlewyrchu aceniadau rhyddiaith. Roedd yn hoff iawn o gyflythrennu a geirwedd fanwl yn ei gerddi.

Y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18)[golygu | golygu cod y dudalen]

Y gerdd "Anthem for Doomed Youth" yn llaw'r bardd, Wilfred Owen.

Crewyd etifeddiaeth eang o farddoniaeth ingol, drawiadol gan brofiad milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu ambell fardd delfrydgar yn canu clodydd gwladgarol, er enghraifft Rupert Brooke yn ei linellau "If I should die, think only this of me: / That there's some corner of a foreign field / That is for ever England", ond ar y cyfan mynegir chwerwder a realaeth erchyll gan feirdd y ffosydd, yn eu plith Wilfred Owen, Siegfried Sassoon, ac Isaac Rosenberg.

Moderniaeth (1920au–40au)[golygu | golygu cod y dudalen]

Darlleniad cyfan o'r gerdd gan T. S. Eliot.

Trafferth chwarae'r ffeil hon? Gweler yr Adran Gymorth.

Yn nechrau'r 20g, ac wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf yn enwedig, ymledodd y mudiad Modernaidd yn y celfyddydau a llenyddiaeth ar draws Ewrop a'r Unol Daleithiau. Mabwysiadwyd mesurau anrheolaidd a ffurfiau newydd ym marddoniaeth Saesneg i ymdrin ag ystod ddi-derfyn o bynciau. Y prif fardd Modernaidd yn yr iaith Saesneg oedd yr Americanwr T. S. Eliot, ac oherwydd iddo ymsefydlu yn Lloegr yn gynnar yn ei yrfa a chael dylanwad anferth ar farddoniaeth Seisnig y cyfnod, fe'i ystyrir yn aml yn fardd Seisnig ac nid yn unig yn fardd Saesneg. Yn ei ddau orchestwaith "The Love Song of J. Alfred Prufrock" (1915) a "The Waste Land" (1922), torrai Eliot â thechnegau'r gorffennol gan gyflwyno i'r darllenydd gyfosodiad gwasgarog, eironig o ddelweddau gwreiddiol ac anghydnaws, cyfeiriadau llenyddol, ac amrywiaeth o sgyrsiau a golygfeydd. Trwy'r ffurfiau a chynnwys hyn, adlewyrchai Eliot ddryswch ysbrydol ac emosiynol y byd modern.

Ymdriniai ambell un o gyfoeswyr Eliot â newidiadau cymdeithasol y cyfnod heb efelychu'r fath ddatblygiadau chwyldroadol yn eu barddoniaeth. Ysgrifennai Robert Graves mewn penillion traddodiadol ac iaith safonol, mewn ymgais i ddeall y presennol drwy ei gymharu â'r byd clasurol. Cyhoeddodd y nofelydd o fri D. H. Lawrence sawl cyfrol o gerddi. Fe gafodd ei ysbrydoli gan ragflaenwyr Americanaidd Eliot wrth iddo ymdrin â grym ac harddwch natur, mewn modd tebyg i'w ryddiaith.

O'r 1930au ymlaen, mae dylanwad Eliot yn hollbresennol ym marddoniaeth Saesneg Lloegr. Ysgrifennai'r mwyafrif helaeth o feirdd Modernaidd o safbwynt gwleidyddol yr adain chwith ac yn ymdrin ag helyntion y 1930au, y Dirwasgiad Mawr, Rhyfel Cartref Sbaen, a thwf ffasgaeth. Yn eu plith oedd W. H. Auden, a ymfudodd i'r Unol Daleithiau ar wawr yr Ail Ryfel Byd, Stephen Spender, a dau Wyddel a ymsefydlasant yn Lloegr, Cecil Day-Lewis a Louis MacNeice.

Ers yr Ail Ryfel Byd (1945–presennol )[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerflun o Philip Larkin yn Kingston upon Hull.

Yn ail hanner yr 20g, blodeuai nifer o fudiadau ym marddoniaeth Lloegr. Efelychwyd swrealaeth y Cymro Dylan Thomas gan George Barker ac eraill yn "yr Apocalyps Newydd". Datblygodd adwaith yn y 1950au, dan yr enw syml "The Movement", a nodweddir gan gerddi tawel, eironig, a "gwrth-ramantaidd". Prif feirdd y mudiad yma oedd Philip Larkin, Donald Davie, a Thom Gunn. Mynegir pesimistiaeth gan Larkin yn debyg i'w ysbrydoliaeth Hardy. Traddodiad anfodernaidd yw hwn sydd yn nodweddiadol o hynt barddoniaeth Lloegr, a gafodd ei barhau gan John Betjeman a Tony Harrison. Ni ellir categoreiddio gwaith Ted Hughes yn hawdd o ran mudiad neu ysgol farddoniaeth, ac yn bosib efe oedd bardd pwysicaf Lloegr yn ail hanner yr 20g. Dylanwadwyd arno'n fawr gan D. H. Lawrence, ac ymdriniai'r rhan fwyaf o'i waith â natur.