John Wycliffe

Oddi ar Wicipedia
John Wycliffe
Ganwyd1320s Edit this on Wikidata
Hipswell Edit this on Wikidata
Bu farw31 Rhagfyr 1384 Edit this on Wikidata
Lutterworth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, cyfieithydd, athronydd, cyfieithydd y Beibl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Diwinydd a diwygiwr a chyfieithydd cyntaf y Beibl i'r Saesneg oedd John Wycliffe (Lladin: Johannes Wyclif, tua 1328 - 31 Rhagfyr 1384). Ystyrir Wycliffe fel un o ragflaenyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd, a chyfeirir ato fel "Seren Bore'r Diwygiad".

Ganed Wycliffe tua'r flwyddyn 1328 ger Richmond, Swydd Efrog. Roedd yn Athro ym Mhrifysgol Rhydychen. Cyfieithodd Wycliffe y Beibl ym 1382 i'r Saesneg. Ysgrifennodd sylwebaethau yn Lladin ar weithiau Aristoteles. Bu farw yn Lutterworth, Lloegr ym 1384.

Condemniwyd ef fel heretic gan yr Eglwys yng Nghyngor Constance ym 1415. Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar Jan Hus, y diwygiwr crefyddol o'r Weriniaeth Tsiec.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.