Jan Hus
Jump to navigation
Jump to search
Athronydd a diwygiwr crefyddol o wlad Tsiec oedd Jan Hus ( ynganiad ) (tua 1369–71 - 6 Gorffennaf 1415). Roedd yn offeiriad ac am gyfnod yn reithor Prifysgol Siarl, Praha. Roedd yr Eglwys Babyddol yn ystyried ei ddysgeidigaethau yn heresi, ac felly fe'i hesgymunwyd a'i losgi wrth y stanc yng Ngorffennaf 1415.
Mae ei ysgrifau sylweddol yn llunio rhan bwysig o lenyddiaeth Tsieceg y Canol Oesoedd. Ystyrir Hus fel un o ragflaenyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd.
Dethlir gŵyl gyhoeddus ar 6 Gorffennaf, diwrnod ei ddienyddiad, yn y Weriniaeth Tsiec er parch iddo.
|