Llenyddiaeth Tsieceg

Oddi ar Wicipedia
Llenyddiaeth Tsieceg
Wynebddalen Beibl Kralice (1579).
Enghraifft o'r canlynolsub-set of literature Edit this on Wikidata
Mathllenyddiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y corff o ysgrifennu drwy gyfrwng y Tsieceg, un o'r ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol ac iaith frodorol y Tsieciaid, yw llenyddiaeth Tsieceg, a darddir yn bennaf o Tsiecia neu yn hanesyddol "y Tiroedd Tsiec" (rhanbarthau Bohemia, Morafia, a de Silesia) yng Nghanolbarth Ewrop. Bu'r Tsieciaid ym Mohemia a Morafia dan reolaeth yr Almaenwyr (yr Ymerodraeth Lân Rufeinig) a'r Awstriaid (y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd) am y rhan helaethaf o'u hanes, ac o ganlyniad bu esblygiad Tsieceg llenyddol yn gysylltiedig ag ymdrechion y bobl i ddiogelu eu hunaniaeth ethnig.

Ysgrifennwyd yn yr iaith Tsieceg yn gyntaf yn y 13g, a thestunau crefyddol oedd y brif fath o lenyddiaeth. Yn y 14g cynhyrchwyd gweithiau mewn llu o genres canoloesol, gan gynnwys arwrgerddi, rhamantau, a chroniclau. Blodeuai diwinyddiaeth, emynyddiaeth, a'r bregeth yn Tsieceg yng nghyfnod y Diwygiad Bohemaidd yn y 15g a'r 16g, ac fel sawl iaith Ewropeaidd arall câi'r Beibl yn iaith y werin ddylanwad hollbwysig ar safoni'r iaith lenyddol yn y cyfnod modern cynnar. Cwtogwyd ar lenyddiaeth Brotestannaidd y Tsieciaid yn sgil y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, ond cyflawnwyd gweithiau crefyddol yn Tsieceg gan awduron alltud megis Jan Ámos Komenský, ac hefyd gweithiau seciwlar yn yr iaith yn yr oes faróc.

Yn oes Rhamantiaeth a thwf cenedlaetholdeb ar draws Ewrop, cafwyd adfywiad cenedlaethol yn niwylliant Tsieceg dan arweiniad llenorion megis Karel Hynek Mácha a Božena Němcová. Yn sgil annibyniaeth Tsiecoslofacia ym 1918, cafwyd datblygiadau radicalaidd yn llenyddiaeth Tsieceg, gan gynnwys dyfodiad Moderniaeth ac arbrofi'r avant-garde. Yn y cyfnod comiwnyddol, llenyddiaeth broletaraidd a Realaeth Sosialaidd oedd y drefn, ond cynhyrchwyd hefyd ffuglen, ysgrifau, a dramâu gwleidyddol anghydffurfiol gan awduron megis Milan Kundera a Václav Havel. Ers diddymu'r uniad â Slofacia, Tsieceg yw priod iaith y Weriniaeth Tsiec ac mae awduron cyfoes megis Michal Viewegh, Petra Hůlová, a Jaroslav Rudiš yn archwilio themâu'r gymdeithas fodern ac hunaniaeth. Mae llenyddiaeth Tsieceg yr 20g a'r 21g yn nodweddiadol am ymwneud â chwestiynau dirfodol ac athronyddol.

Nid yw llenyddiaeth Tsieceg yn gyfystyr â llên Tsiecia, neu lên y Tsieciaid: yn hanesyddol, ysgrifennwyd mewn sawl iaith yn y Tiroedd Tsiec, gan gynnwys Lladin ac Almaeneg. Mae llenorion Tsiecaidd alltud wedi mabwysiadu ieithoedd eraill, er enghraifft Milan Kundera yn Ffrangeg a Tom Stoppard yn Saesneg.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod]

Dyddia'r testunau hynaf sy'n goroesi yn yr iaith Tsieceg o ddiwedd y 13g, yn bennaf emynau a ysgrifennwyd gan lyswyr y frenhinllin Přemyslid yn Nheyrnas Bohemia. Lladin oedd iaith litwrgïaidd y goron ers 1097, ac addaswyd yr wyddor Ladin at ysgrifennu'r Tsieceg yn hytrach na llythrennau'r Hen Slafoneg Eglwysig.[1] Testunau crefyddol, yn bennaf cyfieithiadau o ffurfwasanaethau Lladin, oedd ymhlith y gweithiau llenyddol cynharaf i'w hysgrifennu yn yr iaith Tsieceg.

Yn y 14g cynhyrchwyd gweithiau mydryddol yn Tsieceg yn ddi-baid, gan gynnwys chwedlau, arwrgerddi, croniclau, a rhamantau sifalrig yn ogystal â bucheddau'r saint a thestunau crefyddol eraill. Y gwaith seciwlar cyntaf yn yr iaith oedd yr arwrgerdd Alexandreis, esiampl o chwedloniaeth Alecsandraidd yr Oesoedd Canol, sy'n seiliedig ar gerdd Ladin am fywyd Alecsander Fawr gan y Ffrancwr Gautier de Châtillon. Oddeutu 1350, dechreuodd llenorion Tsieceg ymgymryd â sawl gwaith yn rhyddiaith, yn gyntaf bucheddau'r saint a chroniclau hanesyddol ac yn ddiweddarach addasiadau o straeon canoloesol poblogaidd. Wrth i'r 14g mynd rhagddi, blodeuai'r ddychangerdd a barddoniaeth ddidactig yn Tsieceg. Enghraifft o aralleg wleidyddol ydy Nová rada, a ysgrifennwyd gan yr uchelwr Smil Flaška o Pardubice (tua 1350–1403) i amddiffyn hawliau'r bendefigaeth Fohemaidd yn erbyn y goron.

Diwygiad a Dadeni (15g–16g)[golygu | golygu cod]

Sbardunwyd y Diwygiad Bohemaidd yn nechrau'r 15g gan Jan Hus (tua 1369–1415) a'i ddilynwyr, gan droi Bohemia yn wlad Brotestannaidd. Yn y cyfnod hwn o wrthdaro crefyddol a chymdeithasol, ysgrifennwyd llu o draethodau, pamffledi, ac anerchiadau yn iaith y werin, at ddiben polemeg, diffyniadaeth, a dadlau. Ysgrifennodd Hus, er enghraifft, nifer o bregethau yn Tsieceg.

Dylanwadwyd ar lenyddiaeth Tsieceg yr 16g gan ddyneiddiaeth ac ysgolheictod y Dadeni Dysg. Troswyd y Testament Newydd o'r iaith Roeg i'r Tsieceg ym 1564 gan Jan Blahoslav (1523–71), esgob o Undod y Brawdolion. Cyfieithwyd yr Hen Destament gan ysgolheigion eraill o Undod y Brawdolion, a chyda gwaith Blahoslav argraffwyd felly y Beibl cyflawn yn Tsieceg yn Kralice o 1579 i 1593. Câi Beibl Kralice ddylanwad syfrdanol ar safon yr iaith lenyddol.

Yr Oes Faróc (17g)[golygu | golygu cod]

Gorchfygwyd gwrthryfel y Protestaniaid gan y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd a'r Gynghrair Gatholig ym 1620, a daeth Bohemia dan reolaeth uniongyrchol y Hapsbwrgiaid Awstriaidd. Aethant ati i ostegu Protestaniaeth a thraddodiadau'r uchelwyr brodorol, gan sefydlu pendefigaeth newydd heb fawr o wybodaeth o'r iaith a diwylliant Tsieceg. Gwaharddwyd llenyddiaeth y ddeucan mlynedd gynt i geisio gorfodi Catholigiaeth ar y wlad, a goroesai llenyddiaeth Tsieceg trwy ymdrechion Tsieciaid alltud megis y diwinydd ac addysgwr Jan Ámos Komenský (1592–1670). Ei waith enwocaf yn ei famiaith ydy'r ddameg ryddieithol Labyrint světa a ráj srdce (1631), un o gampweithiau'r Oes Faróc.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Czech literature. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2023.