Karel Hynek Mácha

Oddi ar Wicipedia
Karel Hynek Mácha
Darluniad o Karel Hynek Mácha gan Jan Vilímek.
Ganwyd16 Tachwedd 1810, 10 Tachwedd 1810 Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Bu farw6 Tachwedd 1836, 5 Tachwedd 1836 Edit this on Wikidata
Litoměřice Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, dramodydd, artist, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMáj Edit this on Wikidata

Bardd a rhyddieithwr Tsiecaidd yn yr iaith Tsieceg oedd Karel Hynek Mácha (16 Tachwedd 18105 Tachwedd 1836) a flodeuai yn yr Oes Ramantaidd yn llenyddiaeth Tsieceg.

Ganed ef ym Mhrag, Teyrnas Bohemia, yng nghyfnod Ymerodraeth Awstria, yn fab i deulu tlawd. Yn ystod ei arddegau ceisiodd Mácha lenydda trwy gyfrwng yr Almaeneg, ond erbyn 1830 ysgrifennai ei gerddi, ysgrifau, a straeon yn ei famiaith. Dylanwadwyd arno gan yr adfywiad cenedlaethol Tsiecaidd a chan lenyddiaeth Ramantaidd Lloegr a Gwlad Pwyl. Treuliodd ei ieuenctid yn crwydro'r olion cestyll yng nghefn gwlad Bohemia, ac aeth ar daith i ogledd yr Eidal ym 1834. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Prag, ac ym 1836 symudodd i Litoměřice o weithio yn y gwasanaeth sifil. Yno bu farw Karel Hynek Mácha o niwmonia, yn 25 oed.[1]

Cyhoeddodd Mácha ychydig o'i farddoniaeth yn ystod ei oes, ac ysgrifennodd Obrazy ze života mého ("Lluniau o'm Mywyd"; 1834), casgliad o bortreadau hunangofiannol mewn rhyddiaith delynegol. Ysgrifennodd hefyd nofel, Cikáni ("Sipsiwn"), ym 1835–36, ond mae'r rhan fwyaf o'i ryddiaith arall yn anorffenedig. Campwaith Mácha ydy'r delyneg hir Máj ("Mai"; 1836), yr esiampl fawr gyntaf o farddoniaeth iambig yn yr iaith Tsieceg. Naws brudd ac hiraethus sydd i'w farddoniaeth, sydd yn mynegi athroniaeth dyngedfenyddol y bardd. Mae'n aml yn ymwneud â themâu natur, canoloesoldeb, a diwylliant Tsiecaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Karel Hynek Mácha. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Awst 2023.