Tynghediaeth

Oddi ar Wicipedia
Tynghediaeth
Enghraifft o'r canlynolphilosophical theory Edit this on Wikidata

Athroniaeth neu gredo sydd yn tybio pob digwyddiad yn rhagderfynedig ac anochel yw tynghediaeth.[1] Mewn ystyr lac, gall hefyd gyfeirio at agwedd gyffredin sydd yn ymostyngol tuag at ddigwyddiadau, meddylfryd a welir yn deillio'n naturiol o'r athroniaeth hon.

Gellir olrhain y fydolwg dynghedaidd yn ôl i grefyddau amldduwiol yr Henfyd, gan gynnwys personoliadau'r Tynghedau ym mytholeg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Cafwyd bodau tebyg, y nornir, ym mytholeg y Llychlynwyr.[2]

Tynghediaeth resymegol[golygu | golygu cod]

Seilir tynghediaeth resymegol ar ddadleuon rhesymeg, a dybir natur anochel rhai digwyddiadau oherwydd deddfau natur neu reswm.

Tynghediaeth ddiwinyddol[golygu | golygu cod]

Ffurf grefyddol ar dynghediaeth yw tynghediaeth ddiwinyddol, sy'n tybio duw neu oruchaf rym tebyg yn gyfrifol am ragdynghedu pob digwyddiad yn y bydysawd, gan gynnwys gweithredoedd dynol, yn ôl ei gynllun dwyfol. Esiampl o athrawiaeth ddiwinyddol dynghedaidd yw rhagarfaeth, er enghraifft yng Nghalfiniaeth, sy'n honni i Dduw ragordeinio popeth, gan gynnwys iachawdwriaeth yr etholedigion, ac felly mae tynged yr enaidparadwys neu uffern—wedi ei phenderfynu cyn i'r unigolyn gael ei eni hyd yn oed.

Tynghediaeth benderfyniadol[golygu | golygu cod]

Mae tynghediaeth benderfyniadol yn gysylltiedig â phenderfyniaeth, sef yr athroniaeth a honnir achosiaeth o ganlyniad i ddigwyddiadau blaenorol a deddfau naturiol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  tynghediaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Awst 2023.
  2. (Saesneg) Fatalism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Awst 2023.