Rhesymeg

Oddi ar Wicipedia
Paentiad olew gan Ludwig Seitz (1844–1908) Ffydd a rheswm yn un. Sylwer ar Sant Thomas Aquinas yn addysgu yn y cefn a'r ysgrifen: "divinarum veritatum splendor, animo exceptus, ipsam juvat intelligentiam", gan Pab Leo XIII (Aeterni Patris). Galleria dei Candelabri, y Fatican.

Gallu dyn i feddwl mewn ffordd arbennig ydy rhesymeg; troi tybiaethau a damcaniaethau'n gasliad neu'n benderfyniad. Mewn geiriau eraill, dyma'r drefn mae pobl rhesymol yn cynnig rhesymau neu eglurhad dros "achos ac effaith".

Defnyddir y gair "rheswm" hefyd yn fwy llac, fel gair sy'n cyfiawnhau rhywbeth sydd wedi'i ddweud neu ei wneud, e.e. "Dyna'r rheswm pam nad af yno." [1]

Mae rhesymu'n unigryw i'r natur ddynol ac yn un o ddiffiniadau'r bod dynol. Bellach, cysylltir y gair gyda'r arferiad o ddod i'r penderfyniad cywir gan gyrff sydd mewn awdurdod a sefydliadau addysg. Oherwydd hyn, mae llawer o gyrff eraill yn ceisio hawlio eu defnydd o reswm er mwyn gwella eu delwedd neu fod yn rhan dderbyniol o gymdeithas e.e. cyrff sy'n ymwneud g emosiwn, Yr Ocwlt a ffydd. Gellir edrych ar y tair disgyblaeth hyn fel gwrthwyneb i reswm.

Yr hyn sy'n gwneud rhesymeg yn wahanol i weddill ffurfiau o ymwybyddiaeth yw'r dull gwyddonol bron o fedru cyfiawnhau'r modd mae person wedi dod i gasgliad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Merriam-Webster.com Merriam-Webster Dictionary definition of reason