Dynoliaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Natur ddynol)
Neidio i: llywio, chwilio
HN99~Worker 4xKidsWork.jpg

Mae'r gair Cymraeg dynoliaeth yn cyfuno dau beth: yr hil ddynol a rhinweddau'r hil ddynol. Mae'n cwmpasu'r ddynol ryw a natur y ddynol ryw. Defnyddir yr ystyr gyntaf wrth gyfeirio at fodau dynol e.e. 'troseddau yn erbyn dynoliaeth' a'r ail ystyr (fel arfer drwy ddefnyddio'r ansoddair 'dynol') fel ag a welir yn y term 'agweddau dynol'.[1] Mae'n rhinwedd sy'n ymwneud â moeseg anhunanoldeb (altruism) sy'n deillio o gyflwr bodau dynol. Gellir dweud mai cydrannau 'dynoliaeth' yw gweithredoedd sy'n deillio o gariad, annhunoldeb, caredigrwydd, tegwch a deallusrwydd cymdeithasol.[2] Mae rhai, fodd bynnag, yn dadlau mai ymwneud â'r gyfraith y mae 'tegwch' ac nad yw'n un o rinweddau'r ddynoliaeth.

Nodir bod 'dynoliaeth' yn un o'r chwe rhinwedd gan Peterson & Seligman yn Character Strengths and Virtues: A Handbook and Classification (2004) a nodir fod y rhain yn gyson ym mhob diwylliant byd-eang.[3]

Mae'r cydsyniad hwn yn mynd yn ôl i athroniaeth y dyneiddiwr yn ystod y Dadeni Dysg a sgolastigiaeth y 13g. Pwysleisia urddas pobl, fel y traethododd Aristoteliaeth a chanrifoedd yn ddiweddarach - y cysyniad o 'ddyngarwch modern'; ffrwyth llafur y syniadau hwn yw hawliau dynol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Geiriadur Prifysgol Cymru ar-lein; adalwyd 5 Ebrill 2015
  2. Peterson & Seligman 2004, tud. 34.
  3. Peterson & Seligman 2004, tud. 28.