Ysgolaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Sgolastigiaeth)
Jump to navigation Jump to search
Darluniad o'r athro Henricus de Alemania yn traddodi darlith, gan Laurentius de Voltolina (tua 1350).

Systemau meddwl y prifysgolion Cristnogol yn yr Oesoedd Canol yw ysgolaeth neu sgolastigiaeth. Ymdrechodd i gysylltu'r ffydd â rheswm drwy gyfuno diwinyddiaeth Gatholig ac athroniaeth glasurol yr hen Roegwyr a'r Rhufeiniaid, a phob amser yn ufuddhau i awdurdod y Beibl. Ceir nifer o ffurfiau ar ysgolaeth, ond fel rheol roedd yn seiliedig ar resymeg Aristotlys ac ysgrifau'r Tadau Cristnogol ac yn pwysleisio traddodiad a dogma'r Eglwys Gatholig.

John Scotus Erigena oedd y meddyliwr cyntaf i ymdrin ag ysgolaeth, a hynny yn y 9g. Ymhlith yr ysgolwyr eraill mae Anselm, Archesgob Caergaint, Albertus Magnus, Tomos o Acwin, William o Ockham, Pierre Abélard, Roger Bacon, a Duns Scotus. Cyrhaeddodd ei hanterth yn y 13g, a chyhoeddid Summae (crynodebau) a ddarllenid gan ysgolheigion ar draws Ewrop. Nodweddid y dull ysgolaidd gan broses y ddadl: rhannu'r problemau, dadlau ac ymateb, gwrthddadlau a gwrthbrofi, a dod i gasgliad. Ymdrinia gweithiau'r ysgolwyr â nifer o broblemau athronyddol, megis y berthynas rhwng ewyllys a deall, realaeth ac enwoliaeth, a phrofi bodolaeth Duw. Dylanwadwyd y mudiad cynnar gan draddodiadau cyfriniol a sythweledol patristeg, yn enwedig Awstiniaeth, ac yn hwyrach dysgeidiaeth yr hen Roegwyr.

Collodd ysgolaeth ei bri yn oes y Dadeni, a hyd y 19g fe'i welir yn symbol o feddwl cyntefig a dirmygadwy yr Oesoedd Canol. Trodd "sgolastig" yn derm difrïol am ymlyniad culfarn wrth athrawiaethau traddodiadol.[1] Bellach, ystyrir ysgolaeth yn gyfnod yn hanes athroniaeth sy'n haeddu ei barch ac sy'n llawn meddylwyr penigamp.[2]

Y dull ysgolaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynna'r dull ysgolaidd gydag astudiaeth y testun neu destunau. Wrth ddarllen bu hefyd eglurhad yr athro pan fo angen. Yna, gofynnir cwestiynau i archwilio'r testun a'i geisio deall yn graff. Y cam nesaf oedd i ddarllen ysgrifau gan feddylwyr eraill sy'n ymdrin â'r testun gwreiddiol, ac i ystyried "y sgwrs fawr" rhwng athronwyr a diwinyddion. Trwy'r broses hon câi'r myfyrwyr crap ar rinweddau a gwallau dwy ochr y ddadl. Swyddogaeth y dysgawdr a'r dysgwr yw i ddadansoddi a phenderfynu'r problemau a osodir yn y testun. Gan amlaf, bu'r wers yn ystyried testun athronyddol ar y cyd â'r Beibl. Aristoteliaeth a neo-Blatoniaeth oedd y ddwy brif athroniaeth gan yr ysgolwyr. Defnyddid esboniadau Avicenna ac Averroes ar Aristotlys, a darllenid y neo-Blatonwyr Proclus, Plotinus, Dionysius a'r Ffug-Areopagite.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  sgolasticiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2016.
  2. (Saesneg) Scholasticism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2016.
  3. Stephen F. Brown a Juan Carlos Flores. Historical Dictionary of Medieval Philosophy and Theology (Scarecrow, 2007), tt. 255–6.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]