Enwoliaeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Athroniaeth yw enwoliaeth sy'n dal taw enwau yn unig yw cysyniadau cyffredinol ac haniaethol ac heb realiti sy'n cyfateb iddynt. Fe'i chyferbynnir â realaeth, yr athrawiaeth sy'n honni fod i gysyniadau hollgyffredinol fodolaeth real. Enwoliaeth oedd un o brif bynciau trafod yr ysgolwyr yn yr Oesoedd Canol, ac yn athrawiaeth a arddelid gan feddylwyr megis William o Ockham. Mae'n berthnasol i fateroliaeth ac empiriaeth fel ei gilydd ac felly o bwys i athronwyr hyd heddiw.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • R. A. Eberle. Nominalistic Systems (1970).
Philosophy template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.