William o Ockham
William o Ockham | |
---|---|
![]() Delw o William o Ockham mewn ffenestr gwydr lliw mewn eglwys yn Surrey. | |
Ganwyd | William of Ockham ![]() Unknown ![]() Ockham ![]() |
Bu farw | 9 Ebrill 1349 ![]() München ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, diwinydd, rhesymegwr, ffisegydd, ysgrifennwr ![]() |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Aristoteles, Thomas Aquinas, Anselm o Gaergaint ![]() |
Mudiad | enwoliaeth, Ysgolaeth ![]() |
Athronydd a diwinydd o Sais oedd William o Ockham (tua 1287 – 1347 neu 1349). Roedd yn athronydd ysgolaidd a sefydlodd ffurf o enwoliaeth, gan wadu bod realiti i gysyniadau ac eithrio'r pethau unigol a ddynodir gan eiriau. Ei brif rodd i faes athroniaeth yw rasel Occam, yr egwyddor sy'n honni taw'r ddamcaniaeth symlaf yw'r ddamcaniaeth debycaf.[1][2]
Ganwyd William yn Ockham, Surrey, tua 1287, ac ymunodd â'r Ffransisiaid pan oedd yn ifanc. Astudiodd diwinyddiaeth yng Ngholeg Merton, Rhydychen. Teithiodd i Avignon yn Ffrainc ym 1324 ar gais y Pab Ioan XXII.[3] Yna bu'n cwrdd â John Lutterell a Bonagratia o Bergamo, a daeth y tri ohonynt i gytuno taw heretic oedd y Pab. Bu'r tri ohonynt yn ffoi o Avignon y 1328, a chafodd William ei ysgymuno o'r Eglwys Gatholig. Parhaodd i ysgrifennu ar resymeg yn ei flynyddoedd olaf. Bu farw William ym München ym 1347 neu 1349, yn bosib o'r Pla Du.[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) William of Ockham. Stanford Encyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
- ↑ (Saesneg) William of Ockham. Catholic Encyclopedia. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
- ↑ (Saesneg) William of Ockham. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
- ↑ (Saesneg) William of Ockham (Treatise to John XXII). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
- Athronwyr Seisnig y 13eg ganrif
- Athronwyr ysgolaidd
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Merton, Rhydychen
- Diwinyddion Catholig Seisnig
- Genedigaethau 1287
- Llenorion Lladin yr Oesoedd Canol
- Llenorion Seisnig y 13eg ganrif
- Marwolaethau'r 1340au
- Pobl fu farw o'r pla
- Pobl o Surrey
- Pobl a ysgymunwyd gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig
- Rhesymegwyr Seisnig
- Urdd Sant Ffransis
- Ysgolheigion Seisnig yn yr iaith Ladin