Roger Bacon
Roger Bacon | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Doctor Mirabilis ![]() |
Ganwyd | c. 1220 ![]() Gwlad yr Haf, Ilchester, Bisley ![]() |
Bu farw | c. 1292, 1294 ![]() Rhydychen ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, ffisegydd, diwinydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, astroleg, alchemist, cyfieithydd, dyfeisiwr, mathemategydd, ysgrifennwr ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Opus Majus, Opus Minus ![]() |
Prif ddylanwad | William of Sherwood ![]() |
Mudiad | Ysgolaeth ![]() |
Athronydd o Sais oedd Roger Bacon (tua 1220 – 1292), a adnabyddir gan yr acolâd Lladin Doctor Mirabilis, sy'n nodedig fel un o'r cyntaf i arddel arbrofoliaeth yn yr Oesoedd Canol.[1]
Ganwyd yn Ilchester, Gwlad yr Haf. Astudiodd fathemateg, cerddoriaeth, a seryddiaeth ym mhrifysgolion Rhydychen a Pharis. Addysgodd athroniaeth ym Mharis o 1240 i 1247, ac yn Rhydychen o 1247 i 1257. Ymchwiliodd i opteg ac alcemi, ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i ddisgrifio'r broses o gynhyrchu powdwr gwn a'r cyntaf i argymell defnyddio drychau a lensys i ymchwilio i'r byd naturiol.
Ymunodd ag Urdd Sant Ffransis tua 1257. Bu'r urdd honno yn gwahardd astudiaethau am y byd meidrol ac ysgrifeniadau seciwlar, ond ar gais y Pab Clement IV fe gyflawnodd dri gwaith: Opus majus, Opus minus, ac Opus tertium. Cynigiodd gwricwlwm newydd ar gyfer prifysgolion Ewrop i addysgu mathemateg, ieithoedd (yn enwedig Groeg, Arabeg, ac Hebraeg), alcemi, a gwyddoniaeth, a hynny drwy ddulliau arsylw a mesur.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Roger Bacon. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Medi 2019.
- Academyddion Prifysgol Paris
- Academyddion Prifysgol Rhydychen
- Academyddion Seisnig
- Alcemyddion Seisnig
- Athronwyr Seisnig y 13eg ganrif
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Paris
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Rhydychen
- Genedigaethau 1220
- Llenorion ffeithiol Seisnig y 13eg ganrif
- Llenorion Lladin yr Oesoedd Canol
- Marwolaethau 1292
- Pobl o Wlad yr Haf
- Urdd Sant Ffransis
- Ysgolheigion Seisnig yn yr iaith Ladin