Ilchester
Gwedd
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | De Gwlad yr Haf |
| Poblogaeth | 2,061, 2,123, 2,153 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwlad yr Haf |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.0011°N 2.6825°W |
| Cod SYG | E04008710 |
| Cod OS | ST522226 |
![]() | |
Pentref hanesyddol a phlwyf sifil yn ne Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Ilchester.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Gwlad yr Haf. Mae'n gorwedd ar lan Afon Yeo ger yr A303, tua 14 milltir i'r de-ddwyrain o Bridgwater.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,153.[2]
Yn Oes yr Haearn, wrth yr enw Lindinis, roedd yn un o brif ddinasoedd y Durotriges, llwyth Celtaidd a'u tiriogaethau yn yr hyn sy'n awr yn Dorset, de Wiltshire a de Gwlad yr Haf. Eu prif ddinas arall oedd Durnovaria (Dorchester heddiw). Yn ddiweddarach datblygodd dinas Rufeinig ar y safle.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 13 Hydref 2019
- ↑ City Population; adalwyd 13 Hydref 2019
