Urdd Sant Ffransis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
FrancescoCoA PioM.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolurdd cardod, former entity Edit this on Wikidata
MathFirst Order of Saint Francis Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1209 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbrawd Ffransisgaidd Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadMinister General of the Order of Franciscans Edit this on Wikidata
SylfaenyddFfransis o Assisi Edit this on Wikidata
OlynyddUrdd y Mynachod Lleiaf, Conventual Franciscans Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sant Ffransis; llun gan El Greco.

Urdd Sant Ffransis neu Urdd y Brodyr Lleiaf neu'r Ffransiscaid (Lladin: Ordo Fratrum Minorum, yw'r rhai yn yr Eglwys Gatholig sy'n dilyn "Rheol Sant Ffransis". Cyfeirid atynt yn aml yng Nghymru fel y Brodyr Llwydion.

Sefydlwyd yr urdd gan Sant Ffransis o Assisi (1181 - 1226). Yn gynnar yn 1209. clywodd bregeth a newidiodd ei fywyd. Roedd y bregeth ar Matthew 10:9, lle mae Iesu yn dweud wrth ei ddilynwyr am fyned allan heb arian, na hyd yn oed ffon gerdded. Dilynodd Ffransis y gorchymyn, gan deithio o le i le yn droednoeth yn pregethu edifeirwch. Cyn hir, ymunodd ei ddilynwr cyntaf, Bernardo di Quintavalle, ag ef, ac ymhen blwyddyn roedd ganddo unarddeg o ddilynwyr. Aethant i Rufain i ofyn caniatad Pab Innocentius III i ffurfio urdd grefyddol newydd. Gwrthododd Innocent, ond y noson honno cafodd freuddwyd lle gwelodd ddyn tlawd yn cynnal eglwys adfeiliedig rhag syrthio. Galwodd Ffransis yn ôl a newidiodd ei benderfyniad.

Ymhlith aelodau enwog o'r Urdd mae Anthoni o Padua, Bonaventura, John Duns Scotus, Jacopone da Todi (awdur tybiedig y Stabat Mater), Roger Bacon, François Rabelais, Alexander o Hales, William o Ockham, Giovanni da Pian del Carpini, Pio o Pietrelcina, Mychal F. Judge a Gabriele Allegra.

Mae tair cangen i'r Ffransiscaid modern: Ordo Fratrum Minorum, Ordo Fratrum Minorum Capuccinorum a'r Ordo Fratrum Minorum Conventualium.

Urdd Sant Ffransis yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhaeddodd yr Urdd i Gymru yn weddol fuan wedi marwolaeth Sant Ffransis; sefydlodd Llywelyn Fawr dŷ iddynt yn Llan-faes ar Ynys Môn yn 1237. Ceir yr hanes yn Brut y Tywysogion:

Y flwyddyn ragwyneb y bu farw Dâm Siwan, ferch Ieuan frenin, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, fis Chwefror yn llys Aber; ac y'i claddwyd mewn mynwent newydd ar lan y traeth a gysegrasai Hywel, esgob Llanelwy. Ac o'i hanrhydedd hi ydd adeiladawdd Llywelyn ap Iorwerth yno fynachlog (i'r Brodyr) Troednoeth a elwir Llan-faes ym Môn.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarch, roeddynt wedi ychwanegu tai yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin. Credir fod y bardd crefyddol Madog ap Gwallter o ail hanner y 13g yn aelod o'r Urdd. Yn yr un cyfnod roedd yr ysgolhaig Ffransiscaidd Johannes Wallensis a fu farw yn 1285 yn gweithio yn Rhydychen a Paris. Yn ddiweddarach roedd y merthyr Catholig Sant John Jones (1559 - 1598), a aned yng Nghlynnog Fawr, yn perthyn i'r Urdd.

Heddiw mae tŷ Ffransiscaidd ym Mhantasaph ger Treffynnon yng Ngogledd Cymru.