Assisi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Assisi
Assisi-skyline.jpg
Math cymuned yn yr Eidal Edit this on Wikidata
Poblogaeth 28,290 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bethlehem, Santiago de Compostela, San Francisco, Wadowice, Monte Sant'Angelo, Ripacandida Edit this on Wikidata
Nawddsant Rufinus of Assisi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Province of Perugia Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd 187.19 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 424 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Bastia Umbra, Cannara, Perugia, Valfabbrica, Bettona, Nocera Umbra, Spello, Valtopina, Gualdo Tadino Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43.07°N 12.6175°E Edit this on Wikidata
Cod post 06081 Edit this on Wikidata
Balisica Sant Ffransis, Assisi

Tref yn nhalaith Periwgia yn rhanbarth Umbria yn yr Eidal yw Assisi (Lladin: Asisium), gyda phoblogaeth o 26,196. Mae’n enwog fel man geni Sant Ffransis o Assisi a Santes Chiara o Assisi.

Sefydlwyd municipium Asisium gan y Rhufeiniaid ar lethrau Mynydd Subasio. Gellir gweld llawer o weddillion Rhufeinig yn y dref hyd heddiw. Trowyd trigolion y dref at Gristionogaeth yn 238 OC gan yr esgob Rufino. Yn 545 dinistriwyd rhan helaeth o’r dref gan yr Ostrogothiaid dan eu brenin Totila. Yn yr 11g daeth yn ddinas annibynnol, a bu llawer o ymladd rhyngddi hi a Periwgia. Dechreuodd ddirywio o ganlyniad i’r Pla Du yn 1348.

Ganed Sant Ffransis yma yn 1186. Yn fuan wedi i’r Eglwys Gatholig ei gyhoeddi yn sant yn 1228, dechreuwyd adeiladu Basilica San Francesco d'Assisi, yn cynnwys mynachlog Ffransiscaidd a dwy eglwys. Enwyd y basilica, sy’n cynnwys arlunwaith ffresco gan Cimabue a Giotto, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Effeithiwyd ar Assisi gan y ddaeargryn a darawodd Umbria yn 1997, a wnaeth lawer o ddifrod i adeiladau, ond ers hynny gwnaed llawer o waith adfer.