John Jones (sant)
Jump to navigation
Jump to search
John Jones | |
---|---|
Ganwyd |
Unknown ![]() Clynnog Fawr ![]() |
Bu farw |
12 Gorffennaf 1598 ![]() Achos: crogi ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
mynach ![]() |
Dydd gŵyl |
12 Gorffennaf ![]() |
Merthyr Catholig a sant oedd John Jones (hefyd Griffith Jones, weithiau John Buckley Jones) (1559 – 12 Gorffennaf 1598), a aned yng Nghlynnog Fawr yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd). Ei frawd oedd William Jones, sefydlydd cwfaint Benedictaidd Cambrai.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymunodd John Jones ag Urdd Sant Ffransis yn Rhufain yn 1591 a threuliodd gyfnod yn Pontoise, Ffrainc. Dychwelodd i Brydain y flwyddyn ganlynol dan gêl ond cafodd ei arestio yn Llundain yn 1594 ar gyhuddiad o fod yn offeiriad Catholig yn gweithio o blaid y Gwrth-Ddiwygiad. Cafodd ei ddienyddio trwy ei grogi, diberfeddu a'i chwarteru yn Southwark ar 12 Gorffennaf 1598.
Canoneiddio[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1970 fe'i canoneiddiwyd gan y Pab Pawl VI fel un o Ddeugain Merthyr Lloegr a Chymru.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- William Parri: cynllwynwr Catholig a Doethur yn y Gyfraith Wladol (Sifil) (m. 1585)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]