Crogi, diberfeddu a chwarteru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Diberfeddu Hugh Despenser yr Ieuengaf

O 1351 Crogi, diberfeddu a chwarteru oedd y gosb statudol yn Lloegr ar gyfer dynion a ddyfarnwyd yn euog o deyrnfradwriaeth.[1]

Y Gosb[golygu | golygu cod y dudalen]

Byddai’r troseddwr yn cael:

  • Ei glymu i ffrâm bren
  • Yn cael ei dynnu gan geffylau i'r man dienyddiad[2]
  • Ei grogi am gyfnod byr neu nes ei fod bron yn farw
  • Ei anwirio (torri ei organau rhywiol)
  • Ei ddiberfeddu. Byddai’r perfedd yn cael ei daflu i dân wrth ymyl y troseddwr fel ei fod yn ei weld a'i glywed yn llosgi
  • Ei ddienyddio trwy dorri ei ben
  • Torri gweddill ei gorff i bedwar chwarter; byddai’r gweddillion wedyn yn cael eu harddangos mewn mannau amlwg ar draws y wlad fel rhybudd i’r sawl na welodd y gosb.

Am resymau gwedduster cyhoeddus, byddai menywod a ddyfarnwyd yn euog o deyrnfradwriaeth yn cael eu llosgi wrth y stanc.

Hanes cychwynnol y gosb[golygu | golygu cod y dudalen]

Dienyddio Dafydd ap Gruffudd[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod pob un o elfennau’r gosb wedi eu defnyddio yn flaenorol ar gyfer troseddwyr, dyfeisiwyd yr union drefn uchod er mwyn dienyddio'r tywysog Dafydd ap Gruffudd ar ôl iddo droi yn erbyn y brenin Edward I o Loegr a chyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru ac Arglwydd Eryri. Gwylltiwyd Edward gymaint gan wrthryfel Dafydd nes iddo fynnu cosb nofel[3]. Felly, yn dilyn ei ddal a'i roi ar brawf ym 1283, am ei frad cafodd ei lusgo gan geffyl i'w le dienyddio. Fe'i cosbwyd fel a ganlyn: am ladd uchelwyr Lloegr cafodd hanner ei grogi. Am ladd uchelwyr ar ŵyl sanctaidd y Pasg cafodd ei ddiberfeddu gan losgi ei berfeddion o flaen ei lygaid. Am gynllwynio i ladd y brenin mewn gwahanol rannau o'r deyrnas cafodd ei gorff ei chwarteru a'u danfon i bedair wahanol ddinas yn Lloegr a gosodwyd ei ben ar ben Tŵr Llundain.[4]

Wedi lladd Dafydd ap Gruffudd defnyddiwyd crogi, diberfeddu a chwarteru fel y gosb am bob achos o deyrnfradwriaeth. Ymysg y bobl amlwg i ddioddef y gosb roedd:

Syr William Wallace[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Syr William Wallace yn un o arwyr yr Alban yn ystod ymgais y Brenin Edward I o Loegr i orchfygu’r wlad. Wedi ei ddal a’i rhoi ar brawf ym 1305, bu'n rhaid iddo wisgo coron o ddail llawryf ar gyfer ei ddienyddiad. Cafodd ei lusgo i Smithfield, lle cafodd ei ddienyddio. Cafodd ei ben ei osod ar Bont Llundain a danfonwyd ei chwarterau i Newcastle, Caerferwig, Stirling a Perth.[5]

Andrew Harclay, Iarll 1af Caerliwelydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Harclay yn un o arweinwyr byddin y brenin Edward II yn y rhyfeloedd yn erbyn yr Alban. Wedi dod yn rhwystredig efo diffyg gweithgarwch y brenin yn erbyn yr Alban penderfynodd nad oedd modd ennill y frwydr a phenderfynodd trafod heddwch efo’r Brenin Robert Bruce ar ei liwt ei hun. Gan nad oedd wedi cael caniatâd y brenin ar gyfer y trafodaethdau, cafodd ei ddedfrydu'n teyrnfradwr, heb achos llys, a’i grogi, diberfeddu a’i chwarteru ar 3 Mawrth 1323.[6]

Llywelyn Bren[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Llywelyn Bren yn bendefig Cymreig o Senghennydd ac yn ddisgynnydd i Ifor Bach. Roedd Llywelyn wedi bod ar delerau da gyda'r arglwydd Normanaidd lleol Gilbert de Clare ond pan fu farw Gilbert cymerodd Pain de Turberville, arglwydd Coety, drosodd a dechreuodd ymddwyn yn drahaus. Cwynodd Llywelyn i Edward II, brenin Lloegr, ond heb gael boddlonrwydd. Cododd Llywelyn a'r Cymry lleol mewn gwrthryfel ym mlaenau Morgannwg. Ni pharodd y gwrthryfel am hir gan fod brenin Lloegr a rhai o arglwyddi'r Mers yn anfon nifer o filwyr i Forgannwg i'w gorchfygu. Cymerwyd Llywelyn Bren yn garcharor i Dŵr Llundain lle cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth ac oddi yno cafodd ei ddwyn i Gaerdydd a'i ddienyddio.[7]

Hugh Despenser yr Ieuengaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hugh Despenser, Barwn 1af Despenser ac Arglwydd Morgannwg yn siambrlen i’r brenin Edward II ac yn ffefryn iddo. Bu rhai yn honni bod Edward a Hugh yn cael perthynas hoyw. Roedd y frenhines, Isabella yn casáu Hugh. Tra bu Isabella yn Ffrainc i drafod telerau cytundeb rhwng ei gŵr a brenin Ffrainc aeth i berthynas gyda Roger Mortimer. Penderfynodd y ddau i oresgyn Lloegr a disodli’r brenin. Pan ddechreuodd y goresgyniad bu nifer fawr o bendefigion Lloegr yn ochri gyda’r frenhines, ac aeth Dispenser a’r brenin ar ffo. Cawsant eu dal ger Castell Nedd, carcharwyd y brenin a gorfodwyd ef i ildio'r goron. Dygwyd Dispenser i lys yn Henffordd, un o'r cyhuddiadau a ddygwyd yn erbyn Despenser oedd ei fod wedi cam ddefnyddio grym y goron i lofruddio Llywelyn Bren[7], cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth a chafodd ei ddedfrydu i’w grogi, diberfeddu a’i chwarteru.[8]

Llywelyn ap Gruffudd Fychan[golygu | golygu cod y dudalen]

Sgweier o Gaeo, Sir Gaerfyrddin, oedd Llywelyn ap Gruffudd Fychan ac un o arweinwyr lleol Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn y Deheubarth. Cynlluniodd fagl i dwyllo lluoedd Seisnig oedd yn chwilio am Owain Glyn Dŵr yn 1401. Cynorthwyodd y twyll Owain i ddianc. Fel cosb am ei weithredoedd, gorchmynodd Harri IV iddo gael ei grogi, diberfeddu a’i chwarteru tu allan i gastell Llanymddyfri ym mis Hydref o'r un flwyddyn. Halltwyd ei weddillion a'u danfon i drefi eraill yng Nghymru i'w harddangos er mwyn atal gwladgarwyr rhag ymuno â byddin Owain.[9]

Diwygio’r ddeddf teyrnfradwriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn 1351 roedd y diffyniad o deyrnfradwriaeth yn amwys. Roedd y cyhuddiad o frad yn cael ei selio ar y disgwyliad y byddai pob person yn deyrngar i’w sofran ar bob pwnc, a mater i’r brenin a’i barnwyr oedd pennu os oedd y teyrngarwch honno wedi ei dorri. Bu ustusiaid Edward III yn or-selog wrth ddehongu pa weithgareddau oedd i’w hystyried yn frad. Bu galwadau seneddol i egluro'r gyfraith. Mewn ymateb i’r galwadau cyflwynodd Edward Ddeddf Brad 1351. Gwnaeth y gyfraith newydd gulhau’r diffiniad o frad, nag oedd wedi bodoli o'r blaen, gan rannu'r hen drosedd ffiwdal i ddau ddosbarth, teyrnfradwriaeth a mân frad. Roedd teyrnfradwriaeth yn cael ei gyfyngu i ymdrechion i danseilio awdurdod y brenin trwy ymosod ar ei statws fel sofran a bygwth ei hawl i lywodraethu. Roedd mân frad yn gyfeirio at ladd meistr (neu arglwydd) gan ei was, gŵr gan ei wraig, neu esgob gan ei glerigwr. Byddai dynion a chafwyd yn euog o fân frad yn cael eu llusgo a'u crogi, tra byddai menywod yn cael eu llosgi am y ddwy drosedd.[10]

Pasiwyd Deddf Brad newydd yn y Senedd ym 1790 wnaeth cyfnewid y gosb i grogi yn hytrach na llosgi i fenywod[11]. Pasiwyd Deddf Brad arall ym 1814 lle fyddai dynion yn cael eu llusgo a’u crogi i farwolaeth cyn darnio eu cyrff[12]. O dan Ddeddf Troseddau yn Erbyn Person 1828 chafwyd gwared â’r gwahaniaeth rhwng mân frad a llofruddiaethau eraill.

Y bobl olaf i gael eu dedfrydu i’w crogi, diberfeddu a’u chwarteru oedd siartwyr Casnewydd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones ond cafodd y gosb ei chyfnewid i drawsgludiaeth[13]

Cafwyd gwared â’r gosb yn llwyr o dan Ddeddf Fforffedu 1870 a wnaeth pennu crogi[14], ac yn y lluoedd arfog saethu, fel yn unig foddion i ddienyddio bradwr; er ni wnaeth y ddeddf cael gwared â hawl y brenin i ofyn am dorri pen troseddwr yn hytrach na’i grogi. Cafodd y gosb o dorri pen ei diddymu ym 1973. Cafodd y gosb eithaf ei diddymu am lofruddiaeth yng Nghymru a Lloegr ym 1969, ond ni chafodd ei dileu am deyrnfradwriaeth hyd 1997 er mwyn caniatáu i Brydain arwyddo'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Cymry eraill i ddioddef y gosb[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodyn am yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Y term Saesneg am y gosb yw hanged drawn and quartered, sydd wedi peri peth dryswch, gan fod y llusgo tu nôl i geffyl yn digwydd cyn y crogi[27]. Mae’r Oxford English Dictionary yn dweud bod y gair drawn yn cyfeirio at y weithred o lusgo’r coluddion allan o’r corff, yn sicr mae'r drefn yn awgrymu hynny'n gryf[28]. Dyna pam defnyddir y term crogi, diberfeddu a chwarteru yn yr erthygl hon, yn hytrach na chrogi, llusgo a chwarteru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Beadle, Jeremy; Harrison, Ian (2008), Firsts, Lasts & Onlys: Crime, London: Anova Books, ISBN 1-905798-04-0
  2. STRAIGHT DOPE What do "drawn and quartered" and "keelhauling" mean?; adalwyd 6 Mehefin 2917
  3. History Headlines The First Nobleman Hung, Drawn and Quartered
  4. Bellamy, John (2004), The Law of Treason in England in the Later Middle Ages (Reprinted ed.), Cambridge: Cambridge University Press, ISBN 0-521-52638-8
  5. National Wallace Monument Sir William Wallace, Guardian of Scotland
  6. English Heritage THE RISE AND FALL OF ANDREW HARCLAY
  7. 7.0 7.1 Y Bwgraffiadur LLYWELYN ap GRUFFYDD, neu LLYWELYN BREN (bu f. 1317 )
  8. The Telegraph 31/03/2017 Abbey body identified as gay lover of Edward II
  9. BBC Cymru Hanes Llywelyn ap Gruffydd Fychan
  10. The Guardian 17/10/2014 Treason Act: the facts
  11. Treason Act 1790 (repealed 30.9.1998)
  12. a Treason Act 1814
  13. Newport Past Chartist Trial 16th January 1840 Sentence pronounced by Lord Chief Justice Tindal on John Frost, Zephaniah Williams, William Jones.
  14. History / 19th Century Crime and Punishment / Sentences - Hanging / Last beheading
  15. Y Bywgraffiadur THOMAS, WILLIAM (bu f. 1554 ),
  16. Y Bywgraffiadur POWELL, EDWARD ( 1478? - 1540 ), diwinydd Pabaidd
  17. Y Bywgraffiadur SALUSBURY, SALISBURY, SALESBURY (TEULU), Llewenni a Bachygraig
  18. Y Bywgraffiadur JONES, EDWARD (bu f. 1586 ), cynllwynwr
  19. Y Bywgraffiadur GWYN , RICHARD ( c. 1537 - 1584 ), neu RICHARD WHITE , merthyr Catholig
  20. Catholic_Encyclopedia_(1913)/Ven._Edward_Jones
  21. Y Bywgraffiadur DAVIES, WILLIAM (bu f. 1593 ), cenhadwr dros grefydd Eglwys Rufain a merthyr .
  22. Catholic Online Saints & Angels Saint John Jones
  23. Y Bywgraffiadur ROBERTS, JOHN ( 1576 - 1610 ), mynach Benedictaidd a merthyr
  24. Catholics Who Were Hung, Drawn, and Quartered
  25. Y Bywgraffiadur JONES , JOHN , Maesygarnedd , sir Feirionnydd, a'i deulu ‘y brenin-leiddiad’
  26. Y Bywgraffiadur LEWIS, DAVID ( alias Charles Baker ) ( 1617 - 1679 ), Jesiwit a merthyr
  27. English Language & Usage Stack Exchange What does “drawn” mean in “Hung, drawn and quartered”?
  28. Oxford English Dictionary drawn ystyr 5