Philip Powell

Oddi ar Wicipedia
Philip Powell
Ganwyd2 Chwefror 1594 Edit this on Wikidata
Trallong Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 1646 Edit this on Wikidata
Tyburn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmynach, offeiriad Edit this on Wikidata

Mynach o Urdd Sant Benedict a merthyr Catholig Cymreig oedd y Gwynfydedig Philip Powell (2 Chwefror 1594 - 30 Mehefin 1646).[1]

Ganed ef yn y Trallwng (efallai Trallwng Cynfyn), Sir Frycheiniog, yn fab i Roger ap Rosser Powell a Catherine Morgan. Aeth i ysgol ramadeg Y Fenni, ac yna bu'n astudio'r gyfraith o 1610 hyd 1614. Wedi hynny bu'n astudio yn Fflandrys ym Mhrifysgol Louvain hyd 1619. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1618, a daeth yn fynach y flwyddyn wedyn. Bu'n astudio dan Dom Leander Jones. Bu'n cellerarius priordy Sant Gregori, Douai, hyd ddechrau 1622, pan anfonwyd ef i Loegr i genhadu. Bu'n byw yn Llundain am gyfnod, yna'n gaplan i nifer o deuluoedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf.

Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr, bu'n gaplan i filwyr Catholig ym myddin y Cadfridog Goring yng Nghernyw. Pan orchfygwyd y fyddin honno, cymerodd long i dde Cymru. Cipiwyd y llong gan y Seneddwyr ger y Mwmbwls ar 22 Chwefror 1646, a chymerwyd Powell i'r ddalfa fel offeiriad. Rhoddwyd ef ar ei brawf yn Llundain am fod yn offeiriad Pabyddol, ac fe'i dienyddiwyd trwy ei grogi, diberfeddu a'i chwarteru yn Tyburn ar 30 Mehefin. Ym 1929 gwynfydwyd ef gan y Pab Piws XI

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Martin Cleary. "Powell, Philip (1594-1646), Mynach o Urdd Sant Benedict, a merthyr". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 24 Mehefin 2021.